Neidio i'r prif gynnwy

Parcio ceir yn ein safleoedd ysbytai acíwt

Rhagfyr 2025 

 

Dywedodd Stuart Keen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn cydnabod yn llwyr bod parcio’n gallu bod yn heriol ar bob un o’n tri safle ysbyty acíwt, ac nid ydym yn tanbrisio’r rhwystrediaeth y gall hyn ei achosi. Dyma her yr ydym yn ei rhannu gyda Byrddau Iechyd eraill ledled y wlad. Nid oes unrhyw atebion cyflym na hawdd i wella capasiti, oherwydd cyfyngiadau cyllid, a diffyg tir sydd ar gael yn agos i’r ysbytai hyn lle y gellid cyflwyno darpariaeth barcio ychwanegol. Byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd o ateb y galw am leoedd parcio.

“Gofynnwn i chi ganiatáu digon o amser wrth deithio i’n safleoedd ysbyty er mwyn dod o hyd i le parcio ac i chi ystyried opsiynau eraill lle bo’n bosibl, fel defnyddio cludiant cyhoeddus neu gofyn i ffrindiau neu anwyliaid fynd â chi yno.”