Neidio i'r prif gynnwy

Parcio ceir yn ein safleoedd ysbytai acíwt

Gorffennaf 2026

Dywedodd Stuart Keen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Rydym yn cydnabod yn llwyr pa mor heriol y gall parcio fod ar bob un o'n tri safle ysbyty acíwt, ac nid ydym yn tanbrisio'r rhwystredigaeth y gall hyn ei achosi. Mae hon yn her yr ydym yn ei rhannu gyda Byrddau Iechyd eraill ledled y wlad. Nid oes unrhyw atebion cyflym na hawdd i wella capasiti, oherwydd cyfyngiadau cyllid, a diffyg tir sydd ar gael yn agos i'r ysbytai hyn y gellid cyflwyno darpariaeth ychwanegol i barcio ceir arno. Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Iechyd yn adolygu ystod o opsiynau i fynd i'r afael â'r broblem, gan gynnwys ystyried atebion parcio a theithio a mesurau eraill i wella mynediad at ein safleoedd.

"Rydym yn parhau i annog pobl i ganiatáu digon o amser wrth deithio i'n safleoedd ysbyty er mwyn dod o hyd i le parcio a lle bo'n bosibl, i ystyried opsiynau eraill, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu drwy ofyn i ffrindiau neu anwyliaid fynd â chi yno."