06.03.2026
Mae ein Bwrdd Iechyd wedi cynnal y gynhadledd gyntaf erioed i hybu cydweithio agosach rhwng staff gofal iechyd a rhieni babanod sydd angen gofal newyddenedigol.
Mae’r dull hwn yn cefnogi teuluoedd i fod yn hyderus, yn wybodus ac i gymryd rhan lawn yng ngofal eu babanod. Mae Gofal Integredig i Deuluoedd hefyd yn gwella canlyniadau clinigol, yn helpu i gryfhau’r berthynas rhwng rhieni â'u plant ac yn paratoi teuluoedd yn well ar gyfer dychwelyd adref.
Roedd y gynhadledd yn adlewyrchu ymdrech genedlaethol gynyddol i ymgorffori Gofal Integredig i Deuluoedd fel rhan greiddiol o wasanaethau newyddenedigol ledled Cymru. Roedd lleisiau rhieni yn rhan ganolog o'r diwrnod.
Rhannodd Abby Pugh, cynrychiolydd rhieni newyddenedigol a chefnogwr cyfoedion, brofiad ei theulu o ofal newyddenedigol mewn dau ysbyty a phwysleisiodd bwysigrwydd cael partneriaeth ystyrlon.
Dywedodd: “Pan mae eich babi mewn uned gofal newyddenedigol, gallwch deimlo’n ddi-rym yn sydyn iawn. Mae Gofal Integredig i Deuluoedd yn newid hynny. Mae’n rhoi gwybodaeth, hyder a llais i rieni. Mae’n golygu nad ydym ni’n teimlo fel ymwelwyr, ond yn hytrach, fel rhieni. Mae gweld Cymru yn cynnal ei chynhadledd Gofal Integredig i Deuluoedd gyntaf yn rhoi gobaith gwirioneddol i deuluoedd a fydd yn troedio’r llwybr hwn yn y dyfodol.”
Hon oedd y gynhadledd gyntaf o'i math yng Nghymru, ac fe’i cynhaliwyd ddydd Mercher 4 Mawrth, yn Adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Daeth dros 85 o gynrychiolwyr i glywed amrywiaeth o sesiynau lle trafodwyd pynciau megis cyflymu'r defnydd o Ofal Arbenigol, Gofal Integredig i Deuluoedd, sut i gyfathrebu mewn lleoliadau newyddenedigol a rôl iaith ym maes mamolaeth a gofalu am fabanod newyddenedigol. Trafodwyd hefyd datblygiadau arloesol fel “Cool Cuddles” a rôl seicoleg wrth gefnogi teuluoedd o fewn gofal newyddenedigol.
Lansiwyd hefyd Safonau Ansawdd Mewn Arbenigedd (QIS - Quality in Specialty) newydd gan Karen Jewell, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Llywodraeth Cymru, yn ystod y digwyddiad.
Datblygwyd y syniad gwreiddiol o Ofal Integredig i Deuluoedd mewn astudiaeth yn Ysbyty Mount Sinai yn Toronto, Canada, rhwng 2013-2015. O'r astudiaeth honno mae'r mudiad wedi ymestyn ar draws Canada, yr Unol Daleithiau a'r DU. Mabwysiadwyd y dull gofal hwn yn gynnar ac yn frwd yng Nghymru gan BIPBC.
Darllenwch fwy: Dau helipad newydd yn Ysbyty Gwynedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae rowndiau ward dan arweiniad rhieni yn rhan o’r drefn yn ein Huned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig (NICU) is-ranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd a defnyddir fideos ohonyn nhw i ddysgu gweithwyr proffesiynol iechyd sut i wella’r rhyngweithio rhwng rhieni a staff.
Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn ar fanteision rowndiau ward dan arweiniad rhieni gan Dr Oliver Rackham, meddyg ymgynghorol y newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ystod y gynhadledd. Gallwch ddarllen ei erthygl ar gyfer yr Infant Journal yma: Focus on a unit
Roedd cynnal y gynhadledd gyntaf o'i math yng Nghymru yn sicr yn bluen yn het ein tîm gofal iechyd newyddenedigol. Roedd Angela Hannah, trefnydd a phrif nyrs Gofal Integredig i Deuluoedd Ysbyty Glan Clwyd, wrth ei bodd â llwyddiant y digwyddiad.
Dywedodd: “Mae'r digwyddiad yn nodi cam pwysig ar gyfer hybu gofal newyddenedigol sy'n canolbwyntio ar y teulu yng Nghymru ac yn atgyfnerthu ymrwymiad BIPBC i bartneriaeth, arloesedd ac arfer tosturiol”.
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr