1 Ebrill 2026
Anogir preswylwyr ar draws Gogledd Cymru i ymgymryd â phrawf sgrinio’r coluddyn arferol wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ddechrau, yn dilyn profiad dyn lleol y canfuwyd ei ganser yn gynnar diolch i brawf cartref.
Cafodd Richard Hobson, 58, o Higher Kinnerton, ddiagnosis o ganser y coluddyn ddim ond wythnos cyn Nadolig 2025 ar ôl cwblhau prawf sgrinio arferol gartref.
Ar ôl dychwelyd ei becyn prawf, cafodd Mr Hobson ei wahodd ar gyfer colonosgopi, lle canfuwyd y canser gan y meddygon. Cafodd ei roi dan ofal Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr, Mr Steve Dixon, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a gadarnhaodd y byddai angen llawdriniaeth arno i'w dynnu.
“Roeddwn i wedi cwblhau prawf arferol ddwy flynedd ynghynt, ac roedd popeth yn normal, felly roedd yn syndod”, meddai Mr Hobson. “Ond mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw hi i barhau i ddod i gael eich sgrinio pan gewch eich gwahodd.
“Gall pobl boeni y bydd y gwaethaf yn digwydd, felly maent yn ei ohirio. Ond os caiff ei ddal yn gynnar, mae gennych chi’r cyfle gorau posibl. Mae’r gofal iechyd sydd ar gael nawr yn wych – roeddwn i mor falch o’r gofal a gefais.”
Cafodd Mr Hobson lawdriniaeth tua phedair wythnos ar ôl ei ddiagnosis. Yn y cyfnod cyn y llawdriniaeth, cymerodd ran mewn rhaglen rhagsefydlu (prehab), a gynlluniwyd i helpu cleifion i wella eu ffitrwydd cyn llawdriniaethau.
“Roedd y rhaglen rhagsefydlu’n wych, ac fe wnaeth wahaniaeth gwirioneddol. Fe wnaeth fy helpu i deimlo’n gryfach ac yn fwy parod wrth fynd am y llawdriniaeth”, ychwanegodd.
Cafodd gynnig llawdriniaeth â chymorth robotig yn Ysbyty Gwynedd, a gynhaliwyd gan Mr Dixon. Ar ôl treulio bron i wythnos yn yr ysbyty, mae adferiad Mr Hobson wedi bod yn wych, ac nid oes angen unrhyw driniaeth bellach arno, gydag archwiliadau rheolaidd wedi'u cynllunio dros y pum mlynedd nesaf.
Fe wnaeth Mr Hobson ganmol y gofal a gafodd yn y ddau ysbyty, ac mae bellach yn annog eraill i beidio ag anwybyddu eu gwahoddiad am brawf sgrinio.
“Bu bron i mi ohirio’r prawf, ond rwyf mor falch na wnes i hynny. Os yw rhannu fy stori yn annog un unigolyn i wneud y prawf yna mae’n werth ei rhannu,” meddai.
Esboniodd Mr Dixon fod canser Mr Hobson wedi’i ganfod yn gynnar iawn drwy’r rhaglen sgrinio.
“Canser polyp oedd hwn, sy’n golygu ei fod wedi’i ganfod cyn iddo dreiddio wal y coluddyn neu ledaenu i rywle arall,” meddai. “Mae canserau sy’n cael eu canfod drwy brofion sgrinio yn aml yn y cyfnod cynnar, sy’n gwella canlyniadau’n sylweddol ac yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto.
“Mae’n hynod bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o gael prawf sgrinio pan gânt eu gwahodd gan ei fod yn ein caniatáu i ganfod a thrin canserau yn gynnar.”
“Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn ymwybodol o symptomau posibl canser y coluddyn. Gall y rhain gynnwys gwaed yn eich ysgarthion, newid parhaus yn arferion eich coluddyn fel dolur rhydd neu rwymedd, colli pwysau anesboniadwy neu boen parhaus yn yr abdomen. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o'r symptomau hyn, dylech gysylltu â'ch Meddyg Teulu cyn gynted â phosibl i gael archwiliad.”
Tynnodd Mr Dixon sylw hefyd at fanteision llawdriniaeth robotig, yn enwedig ar gyfer mathau penodol o ganser y coluddyn.
“Gall llawdriniaeth â chymorth robotig fod yn arbennig o effeithiol ar gyfer canserau’r coluddyn ar yr ochr chwith. Mae’n cynnig cywirdeb gwell a delweddu gwell i’r llawfeddyg, a all gefnogi canlyniadau gwell i gleifion. Rydym yn falch iawn o gynnydd ac adferiad Mr Hobson.”
Cynigir profion sgrinio’r coluddyn yng Nghymru i bobl sydd rhwng 50 a 74 oed, gyda phecynnau profi cartref yn cael eu hanfon bob dwy flynedd. Mae’r prawf yn gyflym ac yn syml a gellir ei gwblhau ym mhreifatrwydd eich cartref. Mae’n chwilio am olion bach o waed yn eich ysgarthion, a all fod yn arwydd cynnar o ganser y coluddyn.
Mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn annog unrhyw un sy’n derbyn pecyn sgrinio i’w gwblhau a’i ddychwelyd cyn gynted â phosibl.
Gall cymryd rhan mewn prawf sgrinio helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, pan fydd y driniaeth yn fwy effeithiol a chyfraddau goroesi yn sylweddol uwch.
Am fwy o wybodaeth am brofion sgrinio canser y coluddyn, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.