31/03/2026
Bydd llinell ffôn a gwasanaeth triniaeth pwrpasol ar y GIG yn rhoi cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru yn mynd yn weithredol yfory (1 Ebrill 2026).
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn darparu gwasanaeth newydd Gwasanaeth Trin Gamblo a Llinell Gymorth 24/7 Cymru Gyfan, gan nodi cam sylweddol ymlaen o ran mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, yn cynnwys ffocws cryf ar ymyrraeth gynnar, hygyrchedd, a gofal integredig.
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu er mwyn gwella mynediad at driniaeth arbenigol, gan sicrhau bod pobl yn gallu derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir, waeth ble maent yn byw yng Nghymru. Mae'n cynnig mynediad uniongyrchol at linell gymorth 24/7 a thriniaeth strwythuredig trwy wasanaeth clinigol i Gymru.
Dywedodd Dr Faye Graver, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu:"Mae'r gwasanaeth yn cynrychioli cam ymlaen i Gymru. Rydym yn gwybod y gall niwed sy'n gysylltiedig â gamblo gael effaith ddwys ar unigolion a theuluoedd, ac mae'n hollbwysig bod cymorth yn hygyrch, yn ymatebol, ac ar gael pan fydd ar bobl yr angen mwyaf amdano.
"Trwy gyflwyno llinell gymorth 24/7 i Gymru ochr yn ochr â gwasanaeth triniaeth pwrpasol, rydym yn sicrhau bod unrhyw un sydd wedi'i effeithio'n gallu gofyn am gymorth ar unrhyw adeg. Tra byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynnig digidol, gan gynnwys system e-gyfeirio a gwefan, roedd yn bwysig i ni nad oes neb yn gorfod aros i gael mynediad at gymorth."
Mae gwaith eisoes ar y gweill i gyflwyno gwefan a system e-gyfeirio pwrpasol, a fydd yn symleiddio mynediad ymhellach. Yn y cyfamser, gall unigolion a gweithwyr proffesiynol gael mynediad at y gwasanaeth yn uniongyrchol dros y ffôn ac e-bost.
Mae llwybrau mynediad yn cynnwys:
Wrth gyfeirio trwy e-bost, dylai unigolion gynnwys eu henw a'u rhif ffôn cyswllt. Gellir gadael neges llais gyda'r Gwasanaeth Triniaeth y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Anogir sefydliadau i rannu'r llwybrau mynediad newydd yn eang er mwyn sicrhau bod pobl ar draws Cymru yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael o 1 Ebrill ymlaen.
Caiff rhagor o wybodaeth a diweddariadau eu rhyddhau wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu.