Neidio i'r prif gynnwy

Lansio system rhagnodi electronig newydd yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest

11 Chwefror 2026

Mae cleifion yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest bellach yn elwa yn sgil system rhagnodi electronig newydd sy’n golygu bod prosesau rhoddi meddyginiaethau yn fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon i gleifion ac i’r staff.

Cafodd y system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) ei lansio yn sgil ei gweithredu’n llwyddiannus yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac yn Uned Heddfan, ac mae'n garreg filltir bwysig arall yn nhaith trawsnewid digidol ehangach y Bwrdd Iechyd.

Mae’r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA)  yn system ddigidol ddiogel sydd wedi disodli siartiau meddyginiaethau traddodiadol ar bapur. Gall meddygon, nyrsys a fferyllwyr weld manylion meddyginiaethau a’u rhagnodi a’u gweinyddu yn electronig, gan helpu i leihau camgymeriadau, gwella cyfathrebu rhwng timau a sicrhau bod cleifion yn cael y moddion iawn ar yr adeg iawn.

Ward Tudno yn Ysbyty Gwynedd oedd un o'r wardiau cyntaf i gychwyn defnyddio’r system, a Mair Hughes, un o’r cleifion yno, oedd un o’r rhai cyntaf i gael meddyginiaethau gan ddefnyddio'r system electronig newydd. Mae rhoi’r gorau i ddefnyddio siartiau ar bapur yn golygu y gall ei thîm clinigol gyrchu cofnodion ynghylch ei meddyginiaethau yn ddi-oed ac yn ddiogel, ac mae hynny’n cynorthwyo i sicrhau gofal mwy diogel sy’n cael ei gydlynu’n well.

Yn ôl Ffion Roberts, Dirprwy Reolwr y Ward ac un o’r nyrsys cyntaf i ddefnyddio’r system yn Ward Tudno, daeth y buddion i’r amlwg yn syth.

Dywedodd hi: "Bydd y system yn hynod o fuddiol i staff a chleifion. Mae'n arbed llawer o amser - nid oes angen i ni chwilio am siartiau meddyginiaethau ar bapur mwyach, ac nid oes angen i feddygon ddod i'r ward i ragnodi oherwydd gallant gyrchu’r system ble bynnag y byddant. Mae hynny'n golygu mwy o amser i ganolbwyntio ar ofal i gleifion."

Roedd y gwaith i sefydlu’r system yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest yn ymgymeriad sylweddol, ac roedd newid hwyr i'r amserlen sefydlu yn golygu fod y broses honno’n fwy heriol. Er gwaethaf hynny, fe wnaeth timau yn y gwasanaethau clinigol, fferylliaeth a digidol gydweithio’n agos i sicrhau y gellid sefydlu’r system yn ddiogel.

Sefydlwyd y system dros dri diwrnod, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, llwyddwyd i drosglwyddo manylion mwy na 500 o gleifion i’r system electronig, a bellach, defnyddir ePMA i ragnodi a gweinyddu eu meddyginiaethau. Mae hynny’n gam pwysig iawn o ran gwella diogelwch mewn perthynas â meddyginiaethau, goruchwyliaeth glinigol a pharhad gofal i gleifion gwasanaethau’r ysbyty acíwt ac Uned Hergest.

Dywedodd Charlotte Makanga, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau yng Nghymuned Iechyd Integredig y Gorllewin: “Roedd y gwaith tîm a’r gofal a ddigwyddodd i sefydlu’r system hon yn rhyfeddol. Mae system ePMA yn cynnig nifer fawr o fuddion ac fe wnaiff wahaniaeth mawr er gwell i’n cleifion. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl dimau sy'n wedi cyfranogi, ac yn enwedig i dîm Gwasanaethau Fferylliaeth Ardal y Gorllewin am eu hymroddiad, eu cymorth a'u llafur. Byddwn nawr yn adeiladu ar y llwyddiant hwn wrth i ni gynorthwyo ein hysbytai cymunedol a'n cydweithwyr yn Ardal y Canol i lansio’r system yno."

Mae paratoadau eisoes ar y gweill at gam nesaf y rhaglen, a bwriedir lansio system ePMA yn ysbytai cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn ar 16 Chwefror 2026, ac mae timau yng Nghymuned Iechyd Integredig y Canol yn paratoi lansio’r system ar 7 Mawrth 2026.