19.02.2026
Llwyddodd nyrs (y gyntaf yn ei theulu i astudio mewn prifysgol) i ragori yn ei hastudiaethau nyrsio a chael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.
Roedd Katie Garner yn gynorthwyydd gofal iechyd (HCA) yn nhîm nyrsio cymunedol Prestatyn fwy na thair blynedd yn ôl. Dywedodd na wnaeth hi erioed ddychmygu y deuai’n nyrs a’i bod hi wedi teimlo na fyddai hi fyth yn ddigon da.
Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau ar 13 Rhagfyr, cafodd neges union fis yn ddiweddarach yn cadarnhau ei bod hi’n ddigon da, a’i bod hefyd wedi cyflawni Dosbarth Cyntaf yn ei chwrs gradd Baglor Nyrsio ag Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl ailafael yn ei swydd HCA ar ôl cwblhau ei hastudiaethau, roedd Katie newydd orffen ymweliad â chlaf pan eisteddodd yn ei char a chwilio am ei chanlyniadau ar ei ffôn.
Darllenwch fwy: Ysbrydolwyd Katie i ddilyn ei breuddwyd i fod yn nyrs gan ei mab a anwyd yn gynnar a'i frwydr iechyd ef - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd hi: "Roeddwn i'n disgwyl y canlyniad. Cefais radd dosbarth cyntaf! Roedd llwyddo i gwblhau’r cwrs yn wych. Eisteddais yn fy nghar ac wylo.
“Roeddwn i wedi fy rhyfeddu. Mae hynny wedi gwneud i mi sylweddoli y gallaf gyflawni unrhyw beth y gofynnir i mi ei wneud. Mae’n rhaid i mi wneud fy ngorau glas ym mhob agwedd ar fy ngwaith.”
Dywedodd Katie ei bod hi’n gwerthfawrogi’r cymorth gafodd gan ei chydweithwyr yn nhîm nyrsio cymunedol Prestatyn yn fawr.
"Dymunaf ddiolch yn arbennig i fy metron, Lisa Orhan, ac arweinwyr fy nhîm, sef Nathalie Graham a Janet Binns," meddai Katie. "Roedd pawb yn y gwaith wrth eu bodd. Maen nhw wedi cynnig cymaint o gefnogaeth, a dyna pam oeddwn i’n dymuno dychwelyd. Mae fy nghalon yn yr ardal hon ac yn y gymuned hon."
Fe wnaeth Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio BIPBC, ymddiddori’n frwd yng nghynnydd Katie ar ôl cwrdd â hi cyn i'w chwrs ddechrau - ac mae'n hynod o falch o'i llwyddiant.
Darllenwch fwy: Gweinidog yn gweld sgiliau cyfathrebu ar waith yn ystod ymweliad ag Abergele - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd Angela Wood: "Mae Katie wedi profi bod ganddi’r natur ofalgar sy'n ofynnol i fod yn nyrs wych, ond mae ganddi hefyd y deallusrwydd, y wybodaeth a'r dyfalbarhad sy’n ofynnol i ategu hynny.
"Mae mor hyfryd ei gweld hi'n ffynnu ac rwy'n gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr hwnnw i faes nyrsio trwy waith cymorth gofal iechyd. Gall Katie ddal ei phen yn uchel.
"Mae cael gradd Dosbarth Cyntaf yn rhywbeth y dylai hi a'i theulu ymfalchïo ynddo ac rwy'n falch iawn ei bod hi'n mynd i gryfhau ein tîm cymunedol yn ardal Prestatyn."
Dywedodd Katie ei bod hi’n heriol iawn ceisio cydbwyso gwaith, astudiaethau a bywyd y cartref, wrth i ofynion academaidd hawlio ei hamser.
Esboniodd: “Y peth anoddaf oedd gorfod mynd â’r plant i dŷ fy mam am 6.30am pan oedd fy ngŵr yn gweithio i ffwrdd. Weithiau, roedd sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn anodd.
Darllenwch Fwy: Lansio system rhagnodi electronig newydd yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
"Fe wnes i fwynhau'r cyflwyniadau a'r aseiniadau. Roedd gennym griw gwych o fyfyrwyr nyrsio. Roeddwn i’n ofnus i ddechrau, oherwydd nid oeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg. Ond fe ges i gyfle i ddod i adnabod ffrindiau oes yno, heb os, ac roedd amgylchedd hyfryd yno.”
Cafodd Katie brofiad da iawn yn ystod ei lleoliad hefyd, yn enwedig yn uned gofal y galon Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd eu bod yn “dîm gwych".
Ychwanegodd: “Yno, fe ddysgais gymaint o wersi y gallaf eu rhoi ar waith yn gymuned. Yn y gymuned, ceir llawer o gleifion â methiant y galon neu ffibriliad atrïaidd (rhythm afreolaidd y galon). Mae hynny wedi fy helpu yn enfawr. Bu’n lleoliad da iawn i mi.”
Roedd Katie wedi esbonio’n flaenorol y gwnaeth genedigaeth ei mab 13 wythnos yn gynnar a’i weld yn brwydro clefyd cronig yr ysgyfaint beri iddi sylweddoli ei bod hi’n dymuno helpu eraill. Wedi hynny, ymgeisiodd i fod yn HCA a chymhwysodd i hawlio lle i astudio â thâl ym Mhrifysgol Wrecsam. Dywedodd Katie mai ei theulu oedd ei chefnogwyr pennaf.
“Pe gallai, byddai fy mam yn hysbysu’r byd a’r betws am hynny (cyflawni gradd nyrsio dosbarth cyntaf),” datgelodd Katie. "Mae fy ngŵr yn gweithio i ffwrdd a phan ddaeth adref, fe brynodd dusw mawr o flodau a rhywfaint o anrhegion i mi. Roedd o mor hyfryd. Roedd yn braf gallu teimlo cariad pawb."
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr