02/04/2026
Mae Sue ac Evan sy'n gwirfoddoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn rhannu sut mae garddio wedi dod yn ffordd arbennig o wneud ffrindiau a chael pwrpas a thawelwch.
Cafodd Grŵp Garddio Ysbyty Maelor Wrecsam ei sefydlu i wella gerddi o amgylch Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn creu amgylchedd tawel i gleifion, ymwelwyr a staff.
Fy enw i yw Sue Davies ac rwy'n byw yng Nghei Connah. Gwnaeth fy nhaith wirfoddoli ddechrau wrth i'm gŵr dderbyn triniaeth canser gydag uned y Seren Wib.
Un diwrnod, gwnaethom ni ddod am apwyntiad ac roedd arwerthiant pen bwrdd a thombola yn yr ardd y tu allan. Rydw i wrth fy modd gyda thombola, felly dyma fi'n galw heibio i gymryd cip.
Dyma le y gwnes i gwrdd â Denise, sy'n un o'r gwirfoddolwyr. Gwnaethom ni ddechrau sgwrsio a dywedodd wrtha' i am y grŵp garddio. Roedd hi mor hyfryd a chyfeillgar, ac roedden ni'n dod ymlaen gyda'n gilydd mor dda. Aeth â mi am daith gerdded o amgylch safle'r ysbyty er mwyn dangos peth o'r gwaith yr oedd y gwirfoddolwyr wedi bod yn ei wneud - a dyna oedd dechrau'r cyfan.
Ar y pryd, byddai fy ngŵr yma yn aml i gael cemotherapi rhwng 9am a 4pm. Yn lle eistedd ac aros trwy'r dydd, roeddwn i wedi dechrau mynd allan i'r gerddi. Roedd yn gyfle i mi fod yn fi fy hun am ychydig. Rydw i bellach yn mynd yno sawl gwaith yr wythnos, ond ychydig llai na hynny dros fisoedd y gaeaf.
Pan ymunais yn y lle cyntaf, dim ond glaswellt oedd ardal y planhigfeydd lle mae'r twnnel plastig wedi'i leoli bellach (wrth lety’r staff). Dim ond un uned storio fach gydag ychydig o offer ynddi ar gyfer y safle cyfan oedd gennym ni. Ers hynny, mae cymaint wedi newid.
Gwnaethom ni ddechrau trwy dynnu chwyrn yng nghwrt y capel, ac yn raddol, gwnaethom ni weithio ar bob un o'r cyrtiau ar draws y safle. Mae'r twnnel plastig wedi cael ei drawsnewid - ni fyddai rhywun yn ei adnabod o gymharu â'r adeg pan wnaethom ni ddechrau arni. Rydym ni bellach yn tyfu llawer o lysiau yr ydym ni'n eu gwerthu yn ein harwerthiannau pen bwrdd, gan ofyn am roddion sy'n mynd tuag at gefnogi'r grŵp.
Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus, a roddodd gyflenwadau a chymorth i'n helpu i ddatblygu'r mannau ymhellach.
Y gaeaf yw'r adeg pan fyddwn ni fel arfer yn tacluso ac yn paratoi popeth ar gyfer y gwanwyn a'r haf. Un flwyddyn, gwnaeth ein gwirfoddolwyr blannu swm anhygoel o 12,000 o fylbiau ar draws safle'r ysbyty yn barod ar gyfer y gwanwyn. Roedd eu gweld nhw'n blodeuo'n anhygoel, mae'n gyffrous dechrau gweld hynny'n digwydd unwaith eto.
Un o'r mannau rydym ni'n arbennig o falch ohono yw'r cwrt y tu ôl i'r adran radiotherapi. Ei fwriad yn y lle cyntaf oedd sicrhau bod gan staff rywle tawel i eistedd yn ystod eu hegwyliau. Gwnaethom ni hyd yn oed ychwanegu rhwyllwaith er mwyn rhoi mwy o breifatrwydd iddyn nhw tra'r oedden nhw’n cael cinio. Mae yr un mor bwysig i'r staff ag ydyw i gleifion ac ymwelwyr fynd i rywle tawel.
Ond i mi, nid yw gwirfoddoli'n ymwneud â garddio'n unig - mae'n ymwneud â'r bobl hefyd.
Rydw i wedi gwneud ffrindiau da iawn yma, pobl na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall fwy na thebyg. Mae Tom ac Evan yn ddau o'r rheiny - rydym ni wastad yn cyfeirio atom ni ein hunain gan chwerthin fel y ‘Three Amigos’. Pan fyddwn ni'n cyfarfod fel grŵp, mae'n hyfryd edrych o gwmpas a gweld pa mor bell rydym ni wedi dod gyda'n gilydd.
Y peth gorau am wirfoddoli yma yw ei fod yn hyblyg. Os yw rhywun am ddod yma am awr i wneud ychydig bach o chwynnu'n unig, mae hynny'n hollol iawn. Gallwch ddewis beth yr hoffech chi ei wneud ac am ba hyd yr hoffech chi aros.
Rydym ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i ymuno â ni, mae croeso i unrhyw un sy'n mwynhau bod yn yr awyr agored a gwneud gwahaniaeth.
I mi, mae'r ardd yma wedi dod yn lle arbennig. Mae'n lle sy'n cynnig cyfeillgarwch, pwrpas a thawelwch - ac rydw i mor falch fy mod i wedi galw heibio ar gyfer y tombola yr holl flynyddoedd yn ôl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda'r grŵp, cysylltwch â ni drwy e-bostio wrexhamcommunitygardeners@gmail.com.
Fy enw i yw Evan Hope ac rydw i'n byw yn Burton, Yr Orsedd. Ymunais â grŵp garddio i wirfoddolwyr yr ysbyty tua dwy flynedd yn ôl, heb fod yn hir ar ôl i'm gwraig farw.
Roeddwn wedi ymddeol o Magellan Aerospace yn Llai, Wrecsam, ac roeddwn i am ddefnyddio fy amser yn helpu. Gwirfoddoli gyda'r grŵp garddio oedd yn union beth yr oedd arna’ ei angen.
Pan ymunais yn y lle cyntaf, nid oedd fawr ddim yma ar y pryd. Roedd y gerddi'n ond yn dechrau cymryd siâp, ac roedd digonedd o waith i'w wneud. Dyna un o'r pethau rydw i'n ei fwynhau am y peth - gallwch weld y gwahaniaeth yr ydych chi'n ei wneud.
Rydw i wedi treulio llawer o'm hamser yn gweithio yn yr ardal o amgylch y twnnel plastig. Mae wedi dod yn ffocws gwirioneddol i ni. Pan ddechreuais helpu yno, roedd yn eithaf cyntefig, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn ehangu’r cyfan yn raddol. Bellach mae gennym ni welyau blodau wedi'u codi lle rydym ni’n bwriadu tyfu mwy o lysiau.
Rydym ni'n lwcus bod gwirfoddolwyr newydd yn ymuno â'r grŵp trwy'r amser, ac mae rhai ohonyn nhw'n dod â chyfoeth o brofiad. Mae un o'n gwirfoddolwyr mwyaf newydd yn gwybod llawer am dyfu llysiau, ac mae gennym ni rywun a oedd yn arfer gweithio fel garddwr proffesiynol hefyd. Mae meddu ar y wybodaeth honno yn y grŵp wir yn ein helpu ni i ddysgu gan y naill a'r llall ac i wella'r hyn rydym ni'n ei wneud.
Ar draws safle'r ysbyty, rydym ni wedi plannu miloedd o fylbiau, blodau, planhigion a llysiau. Pan fydd y gwanwyn a'r haf yn cyrraedd a phan fydd popeth yn dechrau blodeuo, mae'n anhygoel gweld y lliw a'r bywyd sydd wedi cael ei greu.
Hyd yn oed yn ystod y gaeaf, mae yna bob amser hen ddigon i'w wneud. Dyna'r adeg pan fyddwn ni'n tacluso'r gwelyau blodau, yn paratoi'r pridd, ac yn sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y tymhorau sydd i ddod. Efallai y bydd yn dawelach, ond mae'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ddiweddarach.
Pan ymunais â'r grŵp yn y lle cyntaf, roeddwn i'n bwriadu gwirfoddoli un diwrnod o'r wythnos yn unig. Ond nid felly y bu i bethau droi allan. Os bydda' i'n clywed bod rhywun arall yn mynd i mewn i wneud ychydig o waith, byddaf innau'n mynd i mewn hefyd - a chyn i mi droi rownd, rydw i yma bedwar neu bum niwrnod o'r wythnos. Y gwir amdani yw fy mod i'n mwynhau dod i mewn a helpu lle bo modd.
Mae'r garddio'n wych, ond mae'r bobl yr un mor bwysig. Rydych chi'n cwrdd ag eraill na fyddai'ch llwybrau wedi croesi fel arall, ac mae ymdeimlad go iawn o waith tîm. Mae pawb yn gweithio ar eu cyflymdra eu hunain, ac mae ‘na rywun yno bob amser i gael sgwrs gyda nhw tra byddwch chi'n mynd i'r afael â thasg.
Mae gwirfoddoli'n rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi ac mae'n dda teimlo eich bod chi'n gwneud rhywbeth gwerth chweil, yn enwedig mewn man sy'n golygu cymaint i gleifion, ymwelwyr a staff.
Os oes unrhyw un yn meddwl am wirfoddoli, byddai fy nghyngor i'n syml, dewch atom ni i roi cynnig arni. Nid oes rhaid i chi ymrwymo llawer o amser. Gallwch ddod yma am awr, gwneud ychydig bach, a gweld beth rydych chi'n meddwl amdano.
Efallai y byddwch chi'n gweld, fel y gwnes i, ei fod yn mynd yn rhywbeth yr ydych chi wir yn edrych ymlaen ato.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda'r grŵp, cysylltwch â ni drwy e-bostio wrexhamcommunitygardeners@gmail.com.