5 Mawrth 2026
Mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn gweithio'n ddiwyd i addysgu pobl ifanc am y canlyniadau iechyd difrifol a allai newid eu bywydau sy'n deillio o gamddefnyddio cetamin, gan sicrhau bod ganddynt wybodaeth glir a ffeithiol am y risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyffur.
Yn ddiweddar, ymunodd staff arbenigol â Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau partner mewn digwyddiad addysgol ‘Be Smart - Don't Start’ yn Ysgol Uwchradd Caergybi gyda’r nod o dynnu sylw at y risgiau corfforol a seicolegol sy’n gysylltiedig â defnyddio cetamin. Daeth gweithwyr proffesiynol o'r meysydd gofal stoma, gwasanaethau deintyddol, CAMHS a phediatreg ynghyd yn y sesiwn i roi darlun clir a gonest i bobl ifanc o'r niwed posibl.
Gall cetamin, sy'n anesthetig pwerus a ddefnyddir yn ddiogel mewn lleoliadau meddygol rheoledig, achosi niwed sylweddol pan gaiff ei gamddefnyddio. Mae clinigwyr o bob cwr o'r DU yn gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn cyflwyno â chamweithrediad difrifol y bledren, poen cronig, problemau â'r arennau, dirywiad yn eu hiechyd meddwl ac, mewn rhai achosion, yr angen am lawdriniaethau mawr.
Yn ystod y digwyddiad gyda thua 250 o bobl ifanc rhwng 13 a 16 oed, eglurodd clinigwyr y gall defnyddio cetamin dro ar ôl tro achosi llid a chreithiau ar y bledren, a elwir weithiau'n "bledren cetamin", a all arwain at boen eithafol, anymataliaeth, gwaedu a cholli swyddogaeth y bledren yn barhaol.
Siaradodd Nyrsys Stoma, Sharon Thomas ac Ann Hart, yn onest â myfyrwyr am realiti byw gyda stoma a sut y gall camddefnyddio sylweddau arwain at ymyrraeth lawfeddygol yn y pen draw.
Dywedodd Sharon: “Fe wnes i fwynhau'r sesiwn a siarad â’r bobl ifanc. Mae hi'n bwysig cael sgyrsiau agored a gonest am beryglon cetamin a'r canlyniadau go iawn a allai ddigwydd.
“Os yw rhannu’r wybodaeth hon yn helpu hyd yn oed un person ifanc i stopio a meddwl cyn cymryd rhywbeth a allai newid ei fywyd am byth, yna mae’n fuddiol.”
Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys mewnbwn gan gydweithwyr deintyddol, a drafododd effaith camddefnyddio cyffuriau ar iechyd y geg, gweithwyr proffesiynol CAMHS a amlygodd y risgiau iechyd meddwl a ffactorau bregusrwydd, a staff pediatrig a siaradodd am y goblygiadau iechyd ehangach i bobl ifanc.
Canmolodd Ann McIntosh, Dirprwy Bennaeth Nyrsio ym maes Llawfeddygaeth ac Anestheteg, ymrwymiad y tîm i waith atal.
Dywedodd: “Rwy’n hynod falch o’n nyrsys stoma, cydweithwyr ac asiantaethau partner a aeth y filltir ychwanegol i gyflwyno’r sesiwn bwerus ac effeithiol hon. Mae atal niwed yr un mor bwysig â'i drin, ac mae rhannu ein harbenigedd â'r gymuned ac addysgu pobl ifanc yn dangos arweinyddiaeth a thosturi go iawn.
“Nid yw’r sgyrsiau hyn bob amser yn hawdd, ond maen nhw’n hanfodol.”
Dywedodd y Prif Arolygydd, Jon Aspinall: “Gall defnyddio cetamin niweidio’ch iechyd yn ddifrifol a gall pobl sy’n ystyried ei gymryd, yn enwedig pobl ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau, ei ddefnyddio heb ddeall y canlyniadau.
“Byddwn yn parhau i weithredu ar sail gwybodaeth yn erbyn y rhai sy’n ymwneud â chyflenwi cetamin a byddwn yn mynd ar drywydd unigolion yn gadarn ac yn eu dwyn gerbron y llys i atal pobl ifanc rhag cael eu targedu.”
Ychwanegodd Stella Dennis-Bunting, Dirprwy Bennaeth ac Arweinydd Diogelu Ysgol Uwchradd Caergybi: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein disgyblion yn wybodus, yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
“Rhoddodd y digwyddiad ‘Be Smarth - Don't Start’ gyfle i’n myfyrwyr ddysgu am beryglon go iawn cetamin mewn ffordd agored a diddorol.
“Rydym yn ddiolchgar i bob partner a helpodd i gyfleu neges mor bwysig a chynnig llwybrau clir at gefnogaeth.”