Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn gweld sgiliau cyfathrebu ar waith yn ystod ymweliad ag Abergele

09.02.2026

Bu Gweinidog o Senedd Cymru ar ymweliad â Gogledd Cymru ddoe, i weld sut rydym ni’n helpu pobl ifanc i gyfathrebu.

Roedd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ym Mharc Pentre Mawr, Abergele, i weld Cyfathrebu Cynhwysol ar waith. Mae'n ddull o gyfathrebu sy'n helpu i sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn cael eu cynnwys.

Mae ein tîm therapi iaith a lleferydd wedi bod yn rhan o brosiect Cymru Gyfan o'r enw ‘Siarad â Fi’. Gosodwyd byrddau cyfathrebu sydd â symbolau a geiriau Cymraeg a Saesneg i'w disgrifio, mewn mwy na 300 o barciau ar hyd a lled Gogledd Cymru. Mae 50 arall wedi cael eu lleoli mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Y syniad yw bod y byrddau'n caniatáu i blant sy'n methu defnyddio geiriau ar lafar i ryngweithio ag eraill. Mae ymchwil wedi dangos bod helpu plant dieiriau i ryngweithio yn eu helpu i feithrin perthnasoedd cymdeithasol ac yn gwella ansawdd eu bywyd.

Dywedodd y Therapydd Iaith a Lleferydd Clinigol, Sarah Hill, sydd wedi bod yn arwain y prosiect ar ran y Bwrdd Iechyd: "Cafodd y byrddau eu cynllunio gyda symbolau â'r geiriau sy'n cyfateb wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae hyn yn annog oedolion a phlant i bwyntio at y symbolau i helpu cyfathrebu a rhyngweithio. Nod darparu'r byrddau hyn mewn parciau chwarae yw annog cynhwysiant i bob plentyn tra eu bod yn y parc.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mae'r ymweliad yn arddangos llwyddiannau'r cynllun hwn ledled Gogledd Cymru. Dyma ddathliad o'r rhai sy'n defnyddio gwahanol ddulliau i ryngweithio.”

Darllenwch fwy: Ap newydd yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ar ôl cael pen-glin newydd yn Ysbyty Gwynedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r adborth yng Ngogledd Cymru wedi bod yn gadarnhaol, gyda mwy na 90% o ymatebion i'r arolwg yn cadarnhau pa mor ddefnyddiol yw'r byrddau.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r byrddau cyfathrebu rydym ni’n eu gweld ledled Cymru yn wych ac yn bwerus – maen nhw’n helpu plant i gysylltu â’u teuluoedd, gwneud ffrindiau a theimlo’n rhan o’u cymuned. Rwy'n falch bod Cymru ar flaen y gad o ran cyfathrebu cynhwysol."

Mae gweithio mewn partneriaeth â chynghorau wedi bod yn rhan allweddol o'r cynllun. Un o'n partneriaid yn y rhanbarth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n berchen ar Barc Pentre Mawr, ac yn ei gynnal a'i gadw.

Dywedodd y Cynghorydd Trystan Lewis, Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r fenter ac yn falch o gynnal y byrddau cyfathrebu hyn mewn mannau chwarae, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. Mae ein cyfleusterau i bawb eu mwynhau, ac mae'r byrddau hyn yn cynnig ffordd arloesol a chynhwysol i helpu plant i gyfathrebu a rhyngweithio â'r rhai o'u cwmpas, gan helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol.”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd y cyntaf i gyflwyno'r prosiect. Roedd y cynllun peilot hwnnw mor llwyddiannus, fe ysgogodd eraill i fabwysiadu'r cynllun ledled Cymru.

Mae mwy na 1,100 o fyrddau wedi cael eu gosod ledled y wlad, fel rhan o gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr