Heddiw, ymunodd y Bwrdd Iechyd â Phrifysgol Bangor i ddathlu lansiad ffurfiol ei Rhaglen Gradd Meistr Fferylliaeth (MPharm) yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Ymunodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferylliaeth Cymru, â staff o’r Bwrdd Iechyd a’r Brifysgol mewn seremoni lansio ffurfiol i ddathlu’r cwrs, sydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng y ddau sefydliad.