Hoffem atgoffa pobl i fod yn barod ac i'w helpu i gael mynediad at ofal a chymorth yn y lle mwyaf priodol os bydd ei angen dros Wyliau'r Pasg.
Bydd llawer o feddygfeydd a rhai fferyllfeydd yn cau neu efallai y bydd ganddynt oriau agor gwahanol dros benwythnos gŵyl y banc ac mae ein hysbytai ar draws Gogledd Cymru yn parhau i fod yn brysur. Trwy gynllunio ymlaen llaw, gall pobl helpu i ofalu amdanynt hwy eu hunain a sicrhau bod gwasanaethau gofal brys ar gael i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdanynt.
Mae'n bwysig gwirio eich meddyginiaeth bresgripsiwn a sicrhau bod gennych ddigon i bara dros gyfnod gŵyl y banc. Os bydd angen i chi archebu mwy, gofynnwch am eich presgripsiynau rheolaidd a'u casglu mewn da bryd. Os bydd angen meddyginiaeth ar frys arnoch pan fydd eich meddygfa neu'ch fferyllfa ar gau, mae gwybodaeth am sut i gasglu meddyginiaethau y tu allan i oriau ar gael yma.
I'r rhan fwyaf o bobl, bydd salwch cyffredin megis annwyd, y ffliw, COVID-19 a norofeirws yn gwella drostynt eu hunain o orffwys a chymryd digon o hylifau gartref. Gallwch gymryd moddion dros y cownter megis parasetamol a thabledi annwyd a ffliw er mwyn lleddfu eich symptomau. Mewn rhai achosion, efallai y bydd rhai pobl yn profi symptomau mwy difrifol a dylent fynd i GIG 111 Cymru ar-lein neu ffonio 111 am gyngor.
I rai, gall gwyliau banc fod yn arbennig o heriol i'w hiechyd meddwl. Mae cymorth ar gael er mwyn cadw pobl yn iach ac i osgoi argyfwng gan ffynonellau megis GIG Cymru 111, Pwyso 2 a llinell gymorth iechyd meddwl CALL.
Dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae gwyliau banc bob amser yn adeg brysur i'r GIG, a gall cymryd camau syml i ofalu amdanoch chi'ch hun a'ch anwyliaid wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Trwy sicrhau bod cyflenwadau digonol o hanfodion bob dydd mewn cypyrddau meddyginiaeth, ceisio cyngor gan GIG 111 Cymru ar-lein pan nad yw'n achos brys, a thrwy ddefnyddio fferyllfeydd lleol ar gyfer mân salwch, gall pobl dderbyn y gofal sydd ei angen yn gyflym ac yn gyfleus, yn aml. Mae gennym ni Unedau Mân Anafiadau ar draws Gogledd Cymru hefyd sy'n gallu trin amrywiaeth eang o anafiadau heb orfod aros yn hir i gael sylw.
"Mae'r camau syml hyn yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau brys ac argyfwng yn parhau i fod ar gael ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf amdanynt.
"Bydd ein staff yn gweithio trwy gydol gwyliau'r Pasg ac rydym ni'n hynod ddiolchgar am bopeth maen nhw'n ei wneud. Trwy gymryd y camau syml hyn, gall pobl chwarae rhan bwysig o ran ein helpu i ofalu am y rhai sydd â’r afiechydon mwyaf difrifol."
Mae rhagor o wybodaeth am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael ar draws Gogledd Cymru ar gael yma.