Rhowch wybod i ni am eich profiadau o wasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru a sut y gallem eu gwella.
Mae Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth pobl yng Ngogledd Cymru ac anghenion cymorth gofalwyr. Rydym yn ei ddefnyddio er mwyn helpu i gynllunio ein gwasanaethau ac i bennu blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth.
P’un a oes gennych syniadau’n seiliedig ar eich profiadau eich hun, eich bod yn y gweithio yn y sector, neu’ch bod yn rhan o sefydliad gwirfoddol neu gymunedol, rydym ni’n awyddus i glywed eich syniadau chi.
Mae ein harolwg ar-lein ar agor bob amser, nid oes dyddiad cau, felly gallwch rannu eich syniadau ar unrhyw adeg.
Gallwch roi gwybod i ni am y canlynol:
Bydd yr holl adborth yn helpu i lywio ein gwaith rhanbarthol a chaiff ei ddefnyddio fel rhan o’n hadolygiad parhaus o Asesiad Anghenion y Boblogaeth.
Cwblhewch yr arolwg yma: https://online1.snapsurveys.com/kdzqex