Neidio i'r prif gynnwy

Geni "babi BadgerNet" cyntaf Gogledd Cymru

Mae’r gwasanaethau mamolaeth yn nodi pennod newydd arbennig yng Ngogledd Cymru yn dilyn genedigaeth y babi cyntaf ers sefydlu’r system cofnodion mamolaeth digidol newydd.

Immy oedd y “babi BadgerNet” cyntaf a anwyd yn Ysbyty Gwynedd, i’w rhieni balch sef Saphron a Sam. Mae ei genedigaeth yn nodi carreg filltir bwysig ar gyfer darpar rieni a fydd yn profi taith beichiogrwydd mwy cysylltiedig a gwybodus.

Bydd y system newydd, BadgerNet, yn disodli cofnodion mamolaeth traddodiadol ar bapur  ac yn caniatáu i ddarpar rieni weld gwybodaeth am eu beichiogrwydd ar-lein trwy eu ffôn clyfar, dyfais glyfar neu gyfrifiadur. Drwy ap a phorth BadgerNotes, gall rhieni weld y diweddaraf am eu gofal mewn amser real, ochr yn ochr â manylion am apwyntiadau ac arweiniad dibynadwy am feichiogrwydd a genedigaeth.

I ddarpar rieni, mae hyn yn golygu bod gwybodaeth bwysig wrth law, gan eu helpu i deimlo'n fwy cysylltiedig, yn dawel eu meddwl ac mewn rheolaeth drwy gydol eu beichiogrwydd.

Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched:

“Mae lansio BadgerNet yn gam sylweddol ymlaen yn yr ymdrechion sy’n mynd rhagddynt i drawsnewid gwasanaethau mamolaeth trwy ddulliau digidol. Trwy wella mynediad at wybodaeth i rieni a symleiddio prosesau i staff, mae'r system newydd yn helpu i sicrhau bod timau mamolaeth yn gallu cynnig gofal diogel, o ansawdd uchel ac wedi’i deilwra i bob teulu.”
 

Yn ogystal â gwella'r profiad i rieni, mae'r system yn cefnogi timau mamolaeth drwy leihau’r gwaith papur a chaniatáu i wybodaeth gael ei chofnodi mewn un lle diogel, gan helpu staff i dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar ofalu am deuluoedd. Mae'r system yn cael ei chefnogi gan wasanaethau merched a chydweithwyr digidol ar draws safleoedd acíwt a chymunedol, gyda bydwragedd digidol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r cyflwyniad ledled Gogledd Cymru.
 

Gall darpar rieni ofyn i'w bydwraig gymunedol am ragor o wybodaeth am BadgerNet a sut i gael mynediad at eu cofnod mamolaeth digidol.