Neidio i'r prif gynnwy

Enwebu cydweithrediad Gwasanaeth IVAS a thîm Cito ar gyfer gwobr genedlaethol ym maes gofal iechyd digidol yn y DU

27.01.2026

Llongyfarchiadau i’n Gwasanaeth IVAS a’n cydweithwyr o’r tîm Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT), sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Ddigidol HSJ yn dilyn eu llwyddiant diweddar yn cyrraedd rownd derfynol yng Ngwobrau GIG Cymru ym mis Tachwedd 2025.

Fel rhan o’i gyflwyniad ar gyfer y wobr, amlinellodd y gwasanaeth pam y dylid ei ystyried ar gyfer y wobr. Dywedodd:

“Mae’r Gwasanaeth Mynediad Mewnwythiennol (IV) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi optimeiddio llwybrau clinigol critigol trwy ddatrysiad digidol cwbl integredig. Mae angen therapi IV ar 90% o gleifion, ond mae 30% yn profi anawsterau mynediad, gan achosi oedi, colli triniaethau, a niwed y gellir ei atal.

“Yn y gorffennol, roedd cyfeiriadau yn dibynnu ar ewyllys da a phrosesau â llaw, gan gymryd oriau o amser staff. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio Cito, system ddigidol fewnol ar gyfer cyfeirio a chofnodi sy’n sicrhau derbyniad ar unwaith, brysbennu amser real, ac sy’n olrhain cylch bywyd dyfeisiau yn gyflawn.

“Mae hyn yn safoni arferion, yn dileu prosesau aneffeithlon, ac yn galluogi i ni ymateb ar yr un diwrnod, gan leihau arosiadau o 2.7 diwrnod i oriau, ac felly’n rhyddhau 72 awr o amser clinigol yr wythnos.”

Darllenwch fwy: Cyflwynwyd system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn Ysbyty Maelor Wrecsam - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn dilyn peilot llwyddiannus, mae'r Gwasanaeth Mynediad IV llawn bellach yn fyw yng Nghymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol, ac mae cynlluniau i gyflwyno’r gwasanaeth ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae’n cynnig cymorth a chefnogaeth benodol i oroesi heriau wrth roi therapïau IV, ac mae dylunio a gweithredu system gyfeirio Cito wedi bod yn allweddol wrth ddarparu'r gwasanaeth.

Mae’r cleifion a fydd yn elwa o’r gwasanaeth yn cynnwys pobl sydd angen meddyginiaeth yn fewnwythiennol (trwy eu gwythiennau) ar gyfer cyfnodau estynedig, neu sydd â gwythiennau sy'n arbennig o anodd eu cyrraedd.

Trwy’r gwasanaeth, gellir gosod dyfeisiau mynediad IV arbenigol ar gleifion sy’n bodloni’r meini prawf, gan ei gwneud yn haws rhoi meddyginiaethau. 

Mae hefyd yn golygu bod llai o risg o osod canwlâu yn aflwyddiannus, lle nad yw ymdrechion i ddefnyddio triniaethau mynediad gwythiennau arferol yn gweithio.

Cynhelir y Noson Wobrwyo yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Birmingham (ICC) ddydd Mawrth, 19 Mai. Dymuna pawb yn y Bwrdd Iechyd yn dda i'r gwasanaeth ar y noson.

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr