Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod agored i ddathlu 20 mlynedd yn achub bywydau yn Ysbyty Glan Clwyd

13.03.2026

Y penwythnos hwn, bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd gael cipolwg ar waith ein Labordy Cathetreiddio Cardiaidd mewn diwrnod agored i ddathlu dau ddegawd yn achub bywydau.

Cynhelir y diwrnod agored ddydd Sadwrn, 14 Mawrth yn Ysbyty Glan Clwyd ac mae gwahoddiad i chi ddod i gael archwiliad am ddim ar yr un pryd. Mae hefyd yn gyfle unigryw i weld sut mae arbenigedd meddygol hanfodol yn gweithio.

Bydd y tîm wrth law i'ch helpu trwy amrywiol brofion ac asesiadau, yn ogystal ag arddangos CPR (Adfywiad Cardiofasgwlaidd ac Ysgyfeiniol) a sut i ddefnyddio AED (Diffibriliwr Allanol Awtomataidd).

Hoffai Arweinydd Clinigol Cardioleg, sef y Cardiolegydd Ymgynghorol Chetan Upadyaya, weld y cyhoedd yn manteisio ar y cyfle hwn i weld y gwaith y mae ef a'i gydweithwyr yn ei wneud, yn ogystal â thynnu sylw at iechyd y galon.

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o helpu'r adran ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed sy'n gyflawniad gwych, ond rydw i am i aelodau'r cyhoedd gymryd rhai negeseuon difrifol o'r cyfle unigryw hwn hefyd.

“Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi ymrwymo i drin y cyhoedd pan fyddant ein hangen ond mae atal bob amser yn well na gwella. Mae iechyd y galon yn fater o bwys mawr yn ein cymdeithas a byddai'n well gennym pe bai pobl yn dysgu sut i gadw eu hunain mor iach â phosibl, am gyfnod mor hir â phosibl.

Darllenwch fwy: Sylw ar Ofal Integredig i Deuluoedd (FICare) wrth i Ogledd Cymru gynnal cynhadledd gydweithredol bwysig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Dyna pam y bydd ein harbenigwyr wrth law ddydd Sadwrn, Mawrth 14, nid yn unig i gynnig y cyfle i gael gwiriadau am ddim am bethau fel colesterol uchel a phwysedd gwaed uchel ond i hyrwyddo arferion iechyd sy'n dda i'r galon.

“Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl ddydd Sadwrn. Byddwn yn dangos fideos o gleifion yn siarad am eu profiadau, yn ogystal â rhoi teithiau o amgylch y Labordy Cathetreiddio ac arddangos sgiliau CPR ac AED. Mae'n gyfle unigryw i rannu ein harbenigedd a'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu.”

Bydd stondinau ar y diwrnod yn rhoi cyfleoedd i siarad am ffibriliad atrïaidd (rhythm calon afreolaidd), ac i gael gwiriadau pwysedd gwaed a cholesterol, cymryd prawf diabetes a chael cyngor ar roi'r gorau i ysmygu. Gallwch hefyd siarad â rhywun am eich Risg Q (eich risg o glefyd cardiofasgwlaidd) a sut i'w leihau.

Ac i’r rhai hynny sydd â gwir ddiddordeb yng ngwaith y Labordy Cathetreiddio, mae cyfle i weld lluniau o rydwelïau wedi'u rhwystro, ac yna ar ôl y driniaeth, gyda stentiau. Cynigir taith gerdded o amgylch y Labordai Cathetreiddio a disgrifiad o'r gwaith sy'n digwydd yno hefyd, yn ogystal ag arddangos sgiliau CPR a sut i ddefnyddio AED.

Cynhelir Diwrnod Agored y Labordy Cathetreiddio, sy'n dathlu 20 mlynedd o wasanaeth i'r cyhoedd, rhwng 11am-2pm ddydd Sadwrn, Mawrth 14, 2026. Nid oes angen apwyntiad ac mae croeso i bawb. Dewch i gael archwiliad iechyd y galon am ddim hefyd.

*Mae'r Labordy Cathetreiddio yn rhan o Ganolfan Gardiaidd Gogledd Cymru. Dewch i mewn i brif gampws yr ysbyty oddi ar y gylchfan, yna gyrrwch heibio prif adeilad yr ysbyty a chymerwch y troad cyntaf ar y dde. Fe welwch chi'r Ganolfan Gardiaidd ar y dde.

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr