6 Ionawr 2026
Diolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr am fynd y tu hwnt i bob disgwyl i helpu staff y GIG yn ystod y cyfnod o dywydd garw gaeafol, gan eu helpu i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau a bod cleifion yn cael gofal diogel er gwaethaf yr amodau heriol.
Dros gyfnod o dridiau rhwng 4 a 6 Ionawr, chwaraeodd timau 4x4 dan arweiniad gwirfoddolwyr rôl hanfodol wrth sicrhau y gallai gwasanaethau rheng flaen barhau'n ddiogel er gwaethaf amodau ffyrdd peryglus a achoswyd gan eira a rhew. Anfonodd Chwilio ac Achub Môn griwiau am oriau estynedig bob dydd, gan ymateb i wrthdrawiad traffig a gyfyngodd fynediad at Ysbyty Gwynedd, cludo staff i Ysbyty Eryri ac yn ôl, rhoi cymorth i bron i 20 aelod o staff mewn diwrnod, cynorthwyo nyrsys ardal i ddosbarthu meddyginiaeth frys, a helpu clinigwyr i gyrraedd cleifion agored i niwed a gofalwyr cymunedol mewn rhai ardaloedd gan gynnwys Tregarth. Cafodd mwy na 60 aelod o staff y GIG gymorth ganddynt.
Cryfhawyd yr ymdrech hon ymhellach gan gefnogaeth ychwanegol gan Ymateb 4x4 Cymru a'r cwmni tacsi lleol, Chubbs Taxis. Gwnaeth eu cymorth sicrhau bod staff yn gallu cyrraedd safleoedd ysbytai a pharhau i ddarparu gofal i gleifion yn y gymuned yn ystod yr amodau heriol.
Dywedodd Scott Jones, Arweinydd Hyfforddiant Gweithredol Chwilio ac Achub Môn: “Mae wedi bod yn bleser helpu. Rydym ni'n dîm ifanc ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cael ein hadnabod yn ein cymunedau, ac yn cynnig cymorth lle gallwn ni. Rydym yn hynod falch o fod yn gwneud ein rhan i helpu'r GIG a chymunedau lleol, ac rydym eisiau i bobl wybod pwy i ffonio pan fydd angen cymorth fel hyn.”
Ychwanegodd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffwn ddiolch o galon i’r gwirfoddolwyr a gamodd i'r adwy i helpu ein gwasanaethau mewn amodau anodd iawn. Sicrhaodd eu hymroddiad fod ein staff yn gallu cyrraedd eu gwaith yn ddiogel a pharhau i ofalu am gleifion yn yr ysbyty ac yn y gymuned. Rwyf hefyd eisiau diolch i'n staff a wnaeth bob ymdrech i fynychu'r gwaith, a'n timau ystadau a weithiodd yn ddiflino i raeanu a rhoi halen ar diroedd ein safleoedd i'w cadw'n ddiogel rhag rhew.”
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi mynegi ei ddiolch i'r holl wirfoddolwyr, staff a sefydliadau partner a oedd yn rhan o'r gwaith y gwnaeth eu hymdrechion ar y cyd sicrhau bod gofal cleifion yn parhau'n ddiogel drwy gydol y cyfnod o dywydd garw.
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’r gefnogaeth a gafwyd gan ein gwirfoddolwyr, y sefydliadau partner a'n staff yn ystod yr amodau heriol iawn hyn wedi bod yn rhyfeddol.
“Gwnaeth eu caredigrwydd, eu gwaith tîm a’u parodrwydd i ddod i'r adwy wahaniaeth gwirioneddol, gan sicrhau bod cleifion yn parhau i dderbyn y gofal yr oedd ei angen arnynt. Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith am eu hymroddiad a’r ymdeimlad cryf o gymuned a ddangoswyd ganddynt.”