Neidio i'r prif gynnwy

Dau helipad newydd yn Ysbyty Gwynedd

27 Chwefror 2026

Mae gwaith adeiladu dau helipad newydd yn Ysbyty Gwynedd ar fin dechrau – dyma brosiect a fydd yn sicrhau bod yr ysbyty yn cael helipad ychwanegol, gan wella mynediad brys o'r awyr yn sylweddol i rai o'r cleifion mwyaf sâl neu wedi’u hanafu’n ddifrifol yng Ngogledd Cymru.

Yr helipad dwbl fydd y cyntaf o'i fath yn y wlad, mae wedi'i gynllunio i fodloni safonau diweddaraf yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn ogystal â gofynion y dyfodol. Bydd dau helipad yn galluogi hofrenyddion Chwilio ac Achub Gwylwyr y Glannau EF ac Ambiwlans Awyr Cymru i lanio'n ddiogel heb oedi, gan atal tagfeydd am na fydd yn rhaid i un awyren aros yn yr awyr tra bod un arall ar y helipad.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan yr HELP Appeal (yr unig elusen yn y wlad sy'n ymroddedig i ariannu helipadiau ysbytai) sydd wedi cyfrannu £1.5 miliwn, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu dros £800,000. Dyma'r tro cyntaf i'r HELP Appeal ariannu helipad ysbyty yng Nghymru a'r tro cyntaf i'r elusen ariannu helipad dwbl. Mae'n nodi cam cyntaf rhaglen ehangach i wella cyfleusterau glanio hofrenyddion ar draws holl safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Glaniodd awyren 158 o weithiau yn Ysbyty Gwynedd yn 2022/23, gan gynnwys sawl achlysur lle roedd angen i ddwy awyren lanio ar yr un pryd—gan dynnu sylw at yr angen am helipad dwbl.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cyfleuster helipad newydd yn cynnwys:

  • Dau fan glanio sy'n addas i'w defnyddio ar yr un pryd ac sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau
  • Perimedr diogel gyda mynediad rheoledig
  • Systemau goleuo wedi'u huwchraddio a swyddogaeth actifadu o bell gan awyrennau sy'n agosáu
  • Gorsaf dân bwrpasol
  • Llwybrau trosglwyddo cleifion gwell, yn cynnwys cynlluniau i ymgorffori “helibygi”
  • Offer monitro tywydd
  • Mynediad a pharcio diogel i ambiwlansys

Gosodwyd helipad presennol yr ysbyty ym 1997 ac, ar wahân i waith cynnal a chadw arferol, nid yw wedi'i foderneiddio ers hynny. Mae'r ailddatblygiad yn sicrhau bod Ysbyty Gwynedd yn barod i fodloni anghenion y rhanbarth.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Nid yw cyflwyno helipad dwbl yn golygu gosod seilwaith newydd yn unig — mae'n cryfhau ein gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pan fo pob munud yn cyfrif.

“Rydym yn gwasanaethu rhanbarth mawr ac amrywiol yn ddaearyddol, lle gall trosglwyddiadau yn yr awyr fod yn hanfodol wrth sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir. Bydd cael dau helipad sy’n cydymffurfio’n llawn yn gwella ein cydnerthedd yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o bwysau neu ddigwyddiadau mawr, a bydd yn sicrhau ein bod yn bodloni safonau'r diwydiant awyrennau nawr ac yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i'r HELP Appeal a Llywodraeth Cymru am eu buddsoddiad sylweddol a’u partneriaeth barhaus. Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli cam cyntaf rhaglen ehangach i foderneiddio cyfleusterau glanio hofrenyddion ar draws safleoedd ein Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod gan ein cymunedau fynediad at ofal brys diogel, amserol ac o'r radd flaenaf am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae'r safle newydd ar gyfer glanio hofrenyddion yn Ysbyty Gwynedd yn ddatblygiad hanfodol i sicrhau y gallwn ddarparu cyfleuster diogel, sy’n cydymffurfio’n llawn ac yn barod at y dyfodol i gleifion sydd angen eu trosglwyddo ar frys mewn hofrennydd.”

“Rydym yn hynod ddiolchgar i elusen HELP Appeal a Llywodraeth Cymru am eu buddsoddiad sylweddol, a fydd yn sicr yn gwella canlyniadau i rai o’n cleifion mwyaf agored i niwed.”

Dywedodd Robert Bertram, Prif Weithredwr yr elusen HELP Appeal: “Mae’r platfform hofrennydd hwn yn fwy na seilwaith newydd, mae’n achubiaeth.

“Dyma nodi moment arbennig i HELP Appeal, ein helipad ysbyty cyntaf yng Nghymru a’r helipad dwbl cyntaf i’r elusen ei ariannu erioed.

“Erbyn hyn, rydym wedi ariannu dros 36 o helipadiau newydd sbon gan achub llawer o fywydau gyda dros 34,000 o laniadau ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r prosiect cyffrous hwn yng Nghymru.”

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer dyluniad yr helipad newydd ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ym mis Medi 2023, yn dilyn arolygon helaeth a gwaith ailgynllunio. Mae'r dyluniad newydd yn deillio o gydweithio cryf rhwng timau clinigol, partneriaid gwasanaethau brys, arbenigwyr y diwydiant awyrennau a rhanddeiliaid allanol, gan sicrhau bod diogelwch, gofal cleifion, preifatrwydd ac effeithlonrwydd gweithredol yn cael blaenoriaeth drwy gydol y dyluniad.

Croesawodd y Capten Jon Earp, Peilot gydag Ambiwlans Awyr Cymru, y datblygiad a dywedodd: "Bydd yr helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd yn rhoi’r cyfle gorau i ni, fel gweithredwyr awyrennau Ambiwlans Awyr Cymru a Chwilio ac Achub, i atal oedi wrth ddanfon cleifion. Dyma gyfleuster blaenllaw sy'n esiampl i ysbytai eraill.”

Ychwanegodd Dr Pete Williams, Arweinydd Clinigol Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd: “Fel ysbyty cyffredinol dosbarth, ein rôl ni yw asesu, sefydlogi a dechrau triniaeth sy’n achub bywydau’n gyflym cyn naill ai derbyn cleifion yn lleol neu drosglwyddo cleifion i ganolfannau arbenigol pan fo angen.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i elusen HELP Appeal am eu cefnogaeth hael a sicrhaodd y datblygiad hwn. Bydd yr uwchraddio hwn yn sicrhau bod mynediad awyr i Ysbyty Gwynedd yn parhau yn y dyfodol. Bydd yn gwella ein gallu i dderbyn cleifion sy'n ddifrifol wael yn ogystal â'n galluogi i drosglwyddo oedolion a phlant â chyflyrau amser-critigol yn ddiogel ac yn amserol i ganolfannau arbenigol.

“Yn syml iawn, bydd y datblygiad yn gwella cydnerthedd ein Hadran Achosion Brys ac yn cefnogi canlyniadau gwell i rai o’r cleifion sydd â’r salwch a’r anafiadau mwyaf difrifol yng Ngogledd Cymru.”

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr helipad dwbl yn gwella gallu'r ysbyty i ymateb i ddigwyddiadau mawr yn sylweddol, gwella trosglwyddiadau cleifion i ganolfannau arbenigol fel Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diogelwch cyfredol y diwydiant awyrennau a rhai'r dyfodol.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Bydd ein buddsoddiad o dros £800,000 yn helpu i sicrhau bod cleifion ledled Gogledd Cymru yn gallu cael gofal brys o’r radd flaenaf pan fyddant ei angen fwyaf. Yr helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau cleifion sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol. Rydym yn falch o gefnogi'r prosiect hanfodol hwn ochr yn ochr ag Elusen HELP Appeal."

Mae disgwyl i’r gwaith ar y datblygiad ddechrau ym mis Ebrill 2026.