13.01.2026
Cyflwynwyd system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn dilyn ei gyflwyno'n llwyddiannus yn Uned Heddfan ym mis Rhagfyr, fel rhan o'r cynllun mabwysiadwyr cynnar. Mae'n nodi carreg filltir bwysig yn nhrawsnewidiad digidol y sefydliad.
Cyflwynwyd y system drwy ddulliau cydweithredol, gyda nifer sylweddol o gydweithwyr ar y safle i’w rhoi ar waith. Gweithiodd timau clinigol gyda'i gilydd dros gyfnod o dridiau i drawsgrifio manylion mwy na 600 o gleifion mewnol â llaw i'r system ddigidol, cyn cynorthwyo timau’r wardiau i bontio i ragnodi electronig fel rhan arferol o ofalu am gleifion.
O ganlyniad, mae rhagnodi electronig ar bob ward cleifion mewnol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, cyflawniad nodedig i PBC a cham pwysig ymlaen yn nhaith trawsnewid ddigidol ehangach y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Lois Lloyd, Prif Fferyllydd:
“Mae cyflwyno ePMA yn llwyddiannus yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn garreg filltir arwyddocaol o ran gwella diogelwch meddyginiaethau a gwneud y mwyaf o dechnoleg ddigidol i gefnogi gofal i gleifion.
Mae hwn wedi bod yn waith cymhleth, a hoffwn gydnabod ymrwymiad a chydweithrediad y timau fferyllfa, clinigol a digidol. Mae ePMA yn rhoi platfform cryfach a mwy diogel ar gyfer rhagnodi a gweinyddu, ac mae'n cynrychioli cam pwysig ymlaen wrth foderneiddio rheoli meddyginiaethau ar gyfer ein cleifion.”
Ychwanegodd Mandy Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio:
“Mae cyflwyno ePMA yn Ysbyty Maelor Wrecsam fel rhan gyntaf y broses, yn gam mawr ymlaen i nyrsio a diogelwch cleifion. Mae rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol yn cynorthwyo cyfathrebu cliriach, yn lleihau risg ac yn ein helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir ar yr amser cywir.
Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad ein timau nyrsio sy'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr meddygol, fferyllfa a digidol i ddarparu gofal mwy diogel a dibynadwy. Mae'n enghraifft wych o sut y gall gwaith tîm ac arloesedd wella profiad a chanlyniadau cleifion.”
Dywedodd Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol:
“Roedd cyflwyno ePMA yn ddiogel ar draws pob ward cleifion mewnol mewn amgylchedd acíwt byw yn gofyn am ymdrech gydlynol, penderfyniadau cyflym ac ymrwymiad parhaus gan dimau ar draws y sefydliad, y rhai a ddygwyd i'r safle a'r rhai sy'n darparu gofal cleifion. Mae'r newid llwyddiannus o bresgripsiynu papur i bresgripsiynu digidol, o fewn amserlen mor dynn, yn cynrychioli cyflawniad gweithredol a chlinigol sylweddol. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r system i Ardaloedd y Canol a'r Gorllewin dros yr ychydig fisoedd nesaf. Diolch i bawb am eu gwaith caled a'u hamynedd i sicrhau ein bod wedi gallu cyflwyno'r cam hwn ymlaen o ran diogelwch cleifion.”
Rhoddwyd trefniadau cymorth helaeth ar waith drwy gydol y penwythnos er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system yn ddiogel ac yn sefydlog, ac mae'r trefniadau hynny'n parhau ers i'r system fynd yn fyw. Roedd canolfan alwadau bwrpasol ar agor o 7am i 11pm, ochr yn ochr â thimau cymorth clinigol a digidol ar lawr yr ysbyty yn cynnig cymorth cyffredinol i staff wrth iddynt addasu i'r system newydd.
Yn dilyn y lansiad llwyddiannus mewn lleoliad acíwt , y bwriad yw symud y rhaglen i'w cham nesaf, sef lansio’r system yn lleoliadau cymunedol Ardal y Dwyrain ar 20 Ionawr .
Bydd yr hyn a ddysgwyd o Ysbyty Wrecsam Maelor yn llywio'r gwaith sydd i ddod, gan helpu i fireinio a chryfhau'r dulliau cyn cyflwyno'r system yn Ardal y Canol ym mis Chwefror ac Ardal y Gorllewin ym mis Mawrth.
Mae llwyddiant y penwythnos hwn yn adlewyrchu ymrwymiad, gwaith tîm a phroffesiynoldeb pawb a oedd yn gysylltiedig, ac mae'n gam ymlaen sylweddol o ran gwella diogelwch meddyginiaethau, effeithlonrwydd a gofal cleifion.