Neidio i'r prif gynnwy

Caffi newydd yn agor yn Ysbyty Gwynedd fel rhan o waith trawsnewid ehangach yn y cyntedd

1 Ebrill 2026

Mae caffi newydd sbon wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Gwynedd heddiw (dydd Mercher, 1 Ebrill), gan nodi cam olaf rhaglen o welliannau i drawsnewid prif gyntedd yr ysbyty.

Cefnogwyd y gwaith trawsnewid yn y cyntedd gan fuddsoddiad gwerth £225,000, sy'n cynnwys rhodd o £175,000 gan NHS Charities Together, a gyflwynwyd yn lleol trwy Awyr Las.

Bydd y caffi newydd, sydd wedi'i leoli wrth ymyl ardal aros yr Uned Fflebotomi, yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, byrbrydau a bwyd oer i gleifion, ymwelwyr a staff. Gyda lle i hyd at 20 o bobl eistedd, dyma le croesawgar i gael seibiant yn yr ysbyty.

Agorwyd y caffi yn swyddogol gan Mandy Ellis sy'n aelod gwerthfawr o'r tîm arlwyo. Bydd llawer o gleifion a staff yn adnabod ei hwyneb cyfeillgar gan ei bod wedi bod yn gweini lluniaeth yn ardal aros yr Uned Fflebotomi dros y misoedd diwethaf.

Mae agor y caffi yn nodi cam olaf y rhaglen i ailwampio'r cyntedd, sydd wedi creu lle mwy croesawgar, ymarferol a hygyrch i gleifion, ymwelwyr a staff.

Mae'r gwelliannau a gwblhawyd yn cynnwys:

  • Symud Pod Macmillan i'r brif fynedfa, ynghyd ag adnewyddu gofod i wirfoddolwyr Awyr Las er mwyn creu hwb cefnogol
  • Uwchraddio'r lloriau a'r nenfydau
  • Cyfleuster newydd i storio cadeiriau olwyn er mwyn gwella hygyrchedd a hwylustod

Dywedodd Dawnne Jenkins, Pennaeth Safle yn Ysbyty Gwynedd: “Mae’n wych gweld y caffi newydd hwn yn agor yn goron ar y gwaith o drawsnewid ein cyntedd. Mae eisoes yn creu amgylchedd llawer mwy croesawgar a chyfforddus i bawb sy'n ymweld â'r ysbyty.

“Mae cael caffi pwrpasol yn fantais wirioneddol i’n staff, cleifion ac ymwelwyr, gan roi rhywle i bobl ymlacio, cael diod a chael seibiant o ardaloedd clinigol prysur.

“Roedd cael Mandy yn agor y caffi yn gwneud hwn yn brofiad mwy arbennig fyth. Mae hi wedi dod yn wyneb mor gyfarwydd a chyfeillgar i gynifer o bobl, ac roedd yn teimlo'n hollol briodol ei bod hi'n nodi'r garreg filltir hon.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan NHS Charities Together drwy Awyr Las, sydd wedi ein helpu i greu cyntedd sy’n fwy hygyrch, yn fwy cefnogol ac, o ganlyniad, yn brofiad llawer gwell i bawb sy’n dod drwy ein drysau.”

Ar ran Awyr Las dywedodd Dyfed Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol: "Mae'n wych gweld y gwelliannau hyn yn Ysbyty Gwynedd a wnaed yn bosibl diolch i'r prosiect a ariannwyd ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd ac NHS Charities Together. Bydd y lle hwn ar ei newydd wedd, ynghyd â'r caffi bach, yn gwella profiadau ein staff, cleifion ac ymwelwyr trwy gynnig cysur a lluniaeth iddynt pan fyddant yn ymweld â safle'r ysbyty."

Bydd y caffi ar agor:

  • Dydd Llun: 8am – 4pm
  • Dydd Mawrth: 8am – 4pm
  • Dydd Mercher: 8am – 4pm
  • Dydd Iau: 8.30am – 4pm
  • Dydd Gwener: 8am – 4pm