24 March 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfranogi mewn treial ymchwil cenedlaethol cyffrous sy’n ceisio gwella adferiad i bobl sydd wedi dioddef torasgwrn y glun - gan eu helpu i ddychwelyd adref yn gyflymach a chynnal eu hannibyniaeth am gyfnod hirach.
Mae’r treial hwn, sef WHiTE 15 – Initiate, yn mynd rhagddo yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam trwy bartneriaeth â Phrifysgol Rhydychen.
Bob blwyddyn, bydd oddeutu 70,000 o bobl yn y DU yn dioddef torasgwrn y glun, a bydd hynny’n costio £3 biliwn bob blwyddyn i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. I lawer, bydd yr effaith yn newid eu bywyd. Yn aml, bydd hynny’n effeithio’n ddifrifol ar symudedd ac annibyniaeth ac ni fydd un o bob chwech fyth yn dychwelyd adref. Mae colli symudedd ac annibyniaeth yn cyfrannu at farwolaethau oddeutu chwarter yr holl gleifion o fewn blwyddyn ar ôl cael eu hanaf.
Nod treial WHiTE 15 – Initiate yw canfod a yw gwneud mwy o weithgarwch symud ar y ward ar ôl llawdriniaeth i unioni torasgwrn y glun yn helpu cleifion i wella'n gyflymach, cyrraedd adref yn gynt, a pharhau i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach.
Fel rhan o'r astudiaeth, ac yn sgil nawdd gan Brifysgol Rhydychen, mae dau ffisiotherapydd ychwanegol bellach yn cyfrannu’n uniongyrchol at ofal cleifion. Mae hyn yn caniatáu i waith adsefydlu ddechrau yn gynharach ar ôl llawdriniaeth ac yn cynorthwyo i addysgu cleifion, perthnasau a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach am bwysigrwydd a manteision cychwyn symud yn fuan ar ôl llawdriniaeth torasgwrn y glun.
Ysbyty Gwynedd oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru wnaeth recriwtio cleifion i gyfranogi yn y treial.
Anne Stansfield yw un o’r cleifion sy’n cyfranogi. Fe wnaeth hi dorri ei chlun ar ôl cael codwm yn ei chartref. Fe wnaeth hi ganmol y gofal a gafodd a'r ffocws ar symud yn gynnar.
"Mae'r ffisiotherapyddion a'r tîm meddygol wedi bod yn wych. Heb os, rwy’n canmol y treial hwn a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni. Mae symud mor bwysig - mae'n llwyddo i’ch helpu i gyrraedd adref yn gyflymach," meddai.
Dywedodd Siôn Quinn, Ffisiotherapydd Clinigol Arweiniol yn Ysbyty Gwynedd, ei fod yn gyfle gwych i'r tîm gael bod yn rhan o'r ymchwil.
"Rwy’n wastad wedi ymddiddori mewn ymchwil oherwydd dyma sut rydym yn dysgu sut i wella gwasanaethau, felly mae hwn yn gyfle gwych i ni fod yn rhan o dreial a allai lwyddo i wella canlyniadau i gleifion. Bellach, mae Gwenno a Lewis yn ffisiotherapyddion sy'n ymwneud yn benodol â’r astudiaeth, ac mae hynny’n cynnig profiad gwerthfawr iddynt ac yn ein helpu i gyflawni adsefydlu yn gynharach. Rydym wedi cael adborth hynod o galonogol hyd yn hyn.”
Ychwanegodd Gareth Jones, Swyddog Ymchwil yn Ysbyty Gwynedd: "Mae cyfranogi yn yr astudiaeth hon yn cynnig manteision enfawr – manteision i staff ac o ran datblygu gwasanaethau yn y dyfodol yn ogystal â manteision i gleifion. Hoffwn ddiolch i'r tîm ffisiotherapi am fod mor rhagweithiol ac am ymrwymo i sicrhau bod y treial hwn yn llwyddiant."
Rwy’n gobeithio y bydd canfyddiadau WHiTE 15 - Initiate yn helpu i lunio gofal yn y dyfodol ar gyfer cleifion sydd wedi dioddef torasgwrn y glun, gan gynorthwyo i sicrhau adferiad cyflymach, gwella annibyniaeth a sicrhau canlyniadau hirdymor gwell.
Dywedodd Lisa Jobes, Nyrs Arbenigol Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam: Dywedodd Ymchwil Gofal Iechyd Cymru: "Diben yr astudiaeth hon yw ystyried a all cymorth ychwanegol gan ffisiotherapyddion wella gofal cleifion a chynorthwyo i ryddhau cleifion yn fwy prydlon. Mae’r adborth cynnar wedi bod yn galonogol, a byddwn yn parhau i werthuso ei effaith wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyfranogi am eu hymrwymiad a'u cydweithrediad hyd yn hyn."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, "Mae hon yn astudiaeth gyffrous a allai sicrhau effaith bellgyrhaeddol ar gleifion, gan helpu i wella adferiad ac annibyniaeth hirdymor. Mae hefyd yn rhoi hwb i'r gallu i ymgymryd â gwaith ymchwil, yn sgil recriwtio dau ffisiotherapydd i helpu i gyflawni’r astudiaeth.
"Mae'n enghraifft ardderchog o'r rôl bwysig y gall ffisiotherapyddion ei chyflawni mewn astudiaethau ymchwil, a sut y gall timau gydweithio ar draws disgyblaethau i ymgorffori ymchwil mewn gwaith ymarferol a chynorthwyo cleifion."