Neidio i'r prif gynnwy

Babanod a anwyd cyn amser yn elwa wrth i Rhian a'i chydweithwyr ennill gwobrau cenedlaethol

13.01.2026

Mae uwch ymarferydd nyrsio newyddenedigol wedi helpu i arwain y tîm a enillodd ddwy wobr genedlaethol mawr eu bri, a hynny am wella cyfleoedd i fabanod a anwyd cyn amser.

Rhian Smith, sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, oedd  nyrs arweiniol tîm Cymru gyfan ar brosiect PERIPrem Cymru (Rhagoriaeth Amenedigol i Leihau Anafiadau mewn Genedigaethau Cynamserol Cymru).

Aeth y grŵp medrus hwn ati i leihau'r amrywiadau mewn gofal amenedigol ledled y wlad. Fe lwyddon nhw i ennill Gwobr Cyfraniad Eithriadol at Wella Gofal Iechyd, yng Ngwobrau GIG Cymru ddiwedd y llynedd. Fe wnaethon nhw hefyd ennill Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru.

Datgelodd Rhian, a oedd wrth ei bodd â'r gwobrau, fod mynd i'r afael â chyfraddau marwolaethau cynamserol yn bwnc sy'n agos at ei chalon, a'i bod wedi ymrwymo'n llwyr i rannu arfer gorau yn y maes ledled Cymru.

Darllenwch fwy: Creu hanes yng Nghymru wrth i Ysbyty Maelor Wrecsam gyflwyno system ePMA - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd: “Roedd hi'n bwysig i mi, fel nyrs arweiniol genedlaethol sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru, fod y rhaglen o fudd i deuluoedd a babanod ledled Cymru gyfan - dim ots ble cawsant eu geni. Mae ein harwyddair 'pob babi, bob tro' yn agos iawn at fy nghalon.

“Roeddem ni eisiau i PERIPrem Cymru fod yn hygyrch i bob teulu, babi a staff. Felly, fe wnaethon ni ffel tîm arweiniol cenedlaethol, ymrwymo i amserlen o ymweliadau o amgylch Cymru. Sefydlodd y fydwraig arweiniol a minnau sesiynau galw heibio wythnosol i staff hefyd, er mwyn iddyn nhw gael mynediad hawdd at gefnogaeth gan gymheiriaid a chefnogaeth genedlaethol wrth i ni geisio datblygu ein cymuned amenedigol.

“Roedd ein dull unedig ar gyfer Cymru yn gryfder pan fu rhaid i ni ailystyried materion anodd ynghylch rhai o’r ymyriadau yn ystod y rhaglen a ariannwyd. Fe wnaed y rhain yn gyflym a chafwyd consensws gan y timau.”

“Rwy’n ddiolchgar am y profiad gwerthfawr o arwain ar y prosiect cenedlaethol hwn,” ychwanegodd Rhian. “Hoffwn ddiolch i’r Bwrdd Iechyd am fy ngalluogi i wneud hyn. Rwyf hefyd eisiau diolch i Angela Wood, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, a siaradodd yn bwerus yn ein digwyddiad lansio cenedlaethol ym mis Mawrth 2023.”

Darllenwch fwy: Diolch i wirfoddolwyr yn y gymuned am gefnogi staff y GIG yn ystod tywydd garw'r gaeaf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Fel un o bedwar arweinydd cenedlaethol y prosiect, helpodd Rhian i lansio'r rhaglen ym mis Mawrth 2023. Roedd y rhaglen wella yn ceisio sicrhau bod gofal amenedigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru.

Cyflwynwyd bwndel o 10 o elfennau ymyriadau achub bywyd ac ymennydd ar gyfer babanod a anwyd cyn 34 wythnos o feichiogrwydd, trwy hyfforddi, digwyddiadau dysgu a rennir ac adolygu data'n rheolaidd. Roedd y meincnodau'n ymwneud â gwella goroesiad a lleihau anaf i'r ymennydd cynamserol.

Ers lansio'r fenter, mae mwy na 1,200 o fabanod wedi elwa. Cododd cydymffurfiaeth â'r bwndel o ymyriadau gofal gan 160%, gydag wyth o'r 10 ymyriad yn dangos gwelliant. Gostyngodd marwolaethau cynamserol ledled Cymru gan fwy na 15% yn ystod yr un cyfnod.

Rhwng 2022 a 2024 gostyngodd cyfradd marwolaethau cynamserol Prosiect Archwilio Newyddenedigol Cenedlaethol (babanod a aned cyn 32 wythnos) gan fwy na chwarter. Aeth Cymru o fod â'r ail gyfradd marwolaethau cynamserol uchaf ar draws rhwydweithiau newyddenedigol y DU i gyfradd is na'r cyfartaledd – ac mae nawr yn y traean isaf o rwydweithiau.

Roedd adborth gan rieni, a oedd yn bartneriaid allweddol yn natblygiad y cynllun, yn tynnu sylw at well cyfathrebu, cysondeb gofal a grymuso.

Dywedodd Anglea Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth BIPBC: “Rwy’n falch iawn o waith Rhian. Fel aelod blaenllaw o'r tîm hwn, mae hi wedi sicrhau bod babanod cynamserol, nid yn unig yng Ngogledd Cymru, ond ledled y wlad gyfan yn elwa o'r cynllun.

“Mae Rhian yn dangos yr ymrwymiad a ddangosir gan gynifer o’n cydweithwyr, nid yn unig wrth ofalu am gleifion agored i niwed ond wrth fod yn rhagweithiol wrth wella ein gwasanaethau er lles pawb.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr