Neidio i'r prif gynnwy

Ap newydd yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ar ôl cael pen-glin newydd yn Ysbyty Gwynedd

4 Chwefror 2026

Mae ap newydd yn helpu cleifion i wella'n gyflymach ac yn fwy effeithiol yn dilyn llawdriniaeth i osod pen-glin newydd yn Ysbyty Gwynedd.

Mae'r ap, mymobility®, a ddatblygwyd gan Zimmer Biomet, yn tywys cleifion trwy ymarferion cyn ac ar ôl eu llawdriniaeth, yn olrhain eu cynnydd ac yn rhoi adborth personol.

Tua saith mlynedd yn ôl, dechreuodd y gyn nyrs Jen French, 62, brofi poen yn ei phen-glin a oedd yn cyfyngu ar ei gallu i fwynhau gweithgareddau fel cerdded, mynd â'i chŵn am dro, a chwarae golff. Dechreuodd ddefnyddio mymobility® chwe wythnos cyn ei llawdriniaeth a chanfu fod yr ymarferion cyn-llawdriniaeth a'r adnoddau addysgol yn ei hysgogi ac yn ddefnyddiol wrth baratoi ar gyfer y llawdriniaeth.

Parhaodd i ddefnyddio'r ap bob dydd ar ôl ei llawdriniaeth, a chafodd sesiynau ffisiotherapi yn Ysbyty Llandudno. Mae'r ap yn olrhain paramedrau cerdded a phob ymarfer corff, gan ganiatáu i gleifion fonitro eu cynnydd eu hunain. Mae'n gweithio ar ffonau clyfar Android ac Apple a gellir ei gysylltu ag oriawr Apple.

Mae swyddogaeth newydd sy'n cael ei gyrru gan AI yn yr ap hefyd, sy'n galluogi cleifion sydd wedi cael pen-glin newydd i olrhain symudiad eu pen-glin yn rhwydd gan ddefnyddio camera eu ffôn clyfar. Gall clinigwyr a ffisiotherapyddion fonitro'r data hwn yn ddiogel hefyd, gan roi canllawiau adferiad sy'n fwy personol i'r claf ac ymyriadau amserol pan fo'u hangen.

Dywedodd Jen: “Mae’r ap wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth i mi wella. Rydw i'n gallu gweld fy nghynnydd bob dydd, mae'n rhoi cymhelliad i mi i ddal i wneud fy ymarferion. Rwy'n teimlo fy mod i wedi gwella'n gyflymach nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl, ac mae gallu olrhain fy nghynnydd yn rhoi ffocws mi ac yn fy nghadw'n bositif. Mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio ac yn fy helpu i gymryd perchnogaeth o fy adferiad. Rydw i eisiau diolch yn fawr iawn i'r holl staff sydd wedi gofalu amdanaf hefyd – mae'r gefnogaeth gan y timau yn yr ysbyty wedi bod yn wych.”

Dywedodd Sion Quinn, Ffisiotherapydd Clinigol Arweiniol yn Ysbyty Gwynedd, fod potensial yr ap wedi creu argraff arno. “Rydym yn gobeithio ehangu ei ddefnydd i gynnwys ffisiotherapyddion cymunedol, fel y gallant fonitro cleifion o bell. Gallai hyn leihau apwyntiadau diangen i gleifion sy'n gwella'n dda a chaniatáu i ni ganolbwyntio mwy ar y rhai sydd angen cymorth dwys," meddai.

Ychwanegodd Mr Muthu Ganapathi, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, a gyflawnodd y llawdriniaeth: “Mae’r dechnoleg hon yn ategu’r Robot pen-glin ROSA rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ystod llawdriniaeth. Dyma'r tro cyntaf i'r math hwn o AI sy'n olrhain ystod symudiad ysgerbydol, gael ei ddefnyddio fel rhan o ap mymobility® yn y DU, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o gleifion yn elwa ohono. Rydym yn ddiolchgar i Zimmer Biomet am ddarparu hyn fel rhan o'u pecyn cymorth roboteg yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae pob un o'n cleifion sy’n cael llawdriniaeth i ailosod clun neu ben-glin yn cael cynnig yr ap, gan sicrhau eu bod yn elwa o gefnogaeth barhaus, a'r gallu i olrhain cynnydd a thaith adferiad sy'n fwy personol.”

Mae'r ap yn dangos sut y gall arloesedd digidol a deallusrwydd artiffisial rymuso cleifion i wella'n gyflymach, cadw eu brwdfrydedd, ac adennill annibyniaeth yn dilyn llawdriniaeth i gael cymalau newydd. Mae hefyd yn cefnogi'r GIG drwy alluogi dull mwy personol o ffisiotherapi a gofal ôl-lawfeddygol – gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf.

Er iddo gael ei gysylltu'n wreiddiol â'r gwasanaeth robotig yn Ysbyty Gwynedd, bydd yr ap bellach yn cael ei weithredu ar gyfer cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a'r bwriad yw iddo gael ei fabwysiadu'n ehangach ar draws y Bwrdd Iechyd.