Neidio i'r prif gynnwy

2026

02/04/26
Gwneud ffrindiau a chael pwrpas trwy wirfoddoli gyda Grŵp Garddio Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae Sue ac Evan sy'n gwirfoddoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn rhannu sut mae garddio wedi dod yn ffordd arbennig o wneud ffrindiau a chael pwrpas a thawelwch.

Cafodd Grŵp Garddio Ysbyty Maelor Wrecsam ei sefydlu i wella gerddi o amgylch Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn creu amgylchedd tawel i gleifion, ymwelwyr a staff.

01/04/26
Gofalu am eich iechyd y Pasg hwn

Hoffem atgoffa pobl i fod yn barod ac i'w helpu i gael mynediad at ofal a chymorth yn y lle mwyaf priodol os bydd ei angen dros Wyliau'r Pasg.

01/04/26
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn: Peidiwch ag anwybyddu eich gwahoddiad i gael prawf sgrinio

Anogir preswylwyr ar draws Gogledd Cymru i ymgymryd â phrawf sgrinio’r coluddyn arferol wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ddechrau, yn dilyn profiad dyn lleol y canfuwyd ei ganser yn gynnar diolch i brawf cartref.

01/04/26
Caffi newydd yn agor yn Ysbyty Gwynedd fel rhan o waith trawsnewid ehangach yn y cyntedd

Mae caffi newydd sbon wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Gwynedd heddiw (dydd Mercher, 1 Ebrill), gan nodi cam olaf rhaglen o welliannau i drawsnewid prif gyntedd yr ysbyty.

01/04/26
Canllawiau statudol Gwrando ar Bobl newydd i wella'r ffordd mae GIG Cymru yn ymateb i bryderon

Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.

31/03/26
Mae gwasanaeth trin gamblo a llinell gymorth 24/7 yn mynd yn weithredol ar gyfer pobl ledled Cymru

Bydd llinell ffôn a gwasanaeth triniaeth pwrpasol ar y GIG yn rhoi cymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru yn mynd yn weithredol yfory (1 Ebrill 2026).

Bwrdd Iechyd yn ymuno â threial nodedig i helpu cleifion torasgwrn y glun i gyrraedd adref yn gynt a bod yn annibynnol am gyfnod hirach

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfranogi mewn treial ymchwil cenedlaethol cyffrous sy’n ceisio gwella adferiad i bobl sydd wedi dioddef torasgwrn y glun - gan eu helpu i ddychwelyd adref yn gyflymach a chynnal eu hannibyniaeth am gyfnod hirach.

20/03/26
Pêl-droed dan Gerdded - cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn 'achubiaeth'

Mae Tim Pattenden wedi camu o’r ystlys i ddod yn Seren y Gêm, gyda chefnogaeth clwb Pêl-droed dan Gerdded Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

16/03/26
GIG Cymru yn cyflwyno gwefan genedlaethol gyntaf ar gyfer iechyd merched

Mae gwefan genedlaethol sy'n ymroddedig i iechyd merched yng Nghymru yn mynd yn fyw heddiw (dydd Llun 16 Mawrth), gan ddarparu safle un stop dibynadwy ar gyfer gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau.

18/03/26
Geni "babi BadgerNet" cyntaf Gogledd Cymru

Mae’r gwasanaethau mamolaeth yn nodi pennod newydd arbennig yng Ngogledd Cymru yn dilyn genedigaeth y babi cyntaf ers sefydlu’r system cofnodion mamolaeth digidol newydd.

13/03/26
Diwrnod agored i ddathlu 20 mlynedd yn achub bywydau yn Ysbyty Glan Clwyd

Y penwythnos hwn, bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd gael cipolwg ar waith ein Labordy Cathetreiddio Cardiaidd mewn diwrnod agored i ddathlu dau ddegawd yn achub bywydau.

06/03/26
Gwasanaethau iechyd merched yng Ngogledd Cymru

 

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2026

Diweddariad gan Nia Boughton, Arweinydd Clinigol Cynllun Iechyd Menywod yng Ngogledd Cymru

#IWD2026 #DiwrnodRhyngwladolyMerched

06/03/26
Chwalu Rhwystrau ym maes Llawfeddygaeth Orthopedig a'r Dwylo

 

C&A gyda Katarzyna (Kasia) Studnicka‑Perkin, Meddyg Ymgynhorol Trawma ac Orthopedig sy'n arbenigo mewn Llawfeddygaeth ar y Dwylo a'r Arddynau.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026

#IWD2026 #DiwrnodRhyngwladolMenywod

06/03/26
Sylw ar Ofal Integredig i Deuluoedd (FICare) wrth i Ogledd Cymru gynnal cynhadledd gydweithredol bwysig

Mae ein Bwrdd Iechyd wedi cynnal y gynhadledd gyntaf erioed i hybu cydweithio agosach rhwng staff gofal iechyd a rhieni babanod sydd angen gofal newyddenedigol.

05/03/26
Gweithwyr proffesiynol iechyd yn rhybuddio am effaith camddefnyddio cetamin sy'n newid bywydau pobl ifanc

Mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn gweithio'n ddiwyd i addysgu pobl ifanc am y canlyniadau iechyd difrifol a allai newid eu bywydau sy'n deillio o gamddefnyddio cetamin, gan sicrhau bod ganddynt wybodaeth glir a ffeithiol am y risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyffur.

27/02/26
Dau helipad newydd yn Ysbyty Gwynedd

Mae gwaith adeiladu dau helipad newydd yn Ysbyty Gwynedd ar fin dechrau – dyma brosiect a fydd yn sicrhau bod yr ysbyty yn cael helipad ychwanegol, gan wella mynediad brys o'r awyr yn sylweddol i rai o'r cleifion mwyaf sâl neu wedi’u hanafu’n ddifrifol yng Ngogledd Cymru.

20/02/26
Ehangu Ysbyty Brenhinol Alexandra i drawsnewid gofal iechyd yn y Rhyl

Bydd Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei drawsnewid gan fuddsoddiad sylweddol o £33m gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau'r GIG i bobl y Rhyl.

19/02/26
Katie yn Nosbarth Cyntaf y Nyrsys

Llwyddodd nyrs (y gyntaf yn ei theulu i astudio mewn prifysgol) i ragori yn ei hastudiaethau nyrsio a chael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Roedd Katie Garner yn gynorthwyydd gofal iechyd (HCA) yn nhîm nyrsio cymunedol Prestatyn fwy na thair blynedd yn ôl. Dywedodd na wnaeth hi erioed ddychmygu y deuai’n nyrs a’i bod hi wedi teimlo na fyddai hi fyth yn ddigon da.

17/02/26
Diweddariad ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys

Diweddariad ar y gwaith parhaus i adolygu a gwella'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), yn dilyn trafodaethau diweddar ym Mhwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru (NWJCC) – Ionawr 2026.

11/02/26
Lansio system rhagnodi electronig newydd yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest

Mae cleifion yn Ysbyty Gwynedd ac yn Uned Hergest bellach yn elwa yn sgil system rhagnodi electronig newydd sy’n golygu bod prosesau rhoddi meddyginiaethau yn fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon i gleifion ac i’r staff.