06.11.2025
Mae grŵp o glinigwyr arennol yn gobeithio am “feib” elusennol da, pan fyddan nhw’n mynd ar eu beiciau'r penwythnos hwn… a hynny heb iddyn nhw fynd i unman.
Bydd y cydweithwyr, sydd i gyd yn gweithio yn adran arennol Glan Clwyd, yn newid o’r cotwm i’r lycra ac yn cyfnewid stethosgopau am ffyn golau ar gyfer her fawr y “Vibe Cycle” am ddwy awr, yn Ninbych.
Y nod yw codi o leiaf £5,000 tuag at beiriant uwchsain newydd sydd werth £48,000, ar gyfer yr adran. Mae'r ddyfais hon yn helpu i olrhain llinellau dialysis wrth iddyn nhw gael eu mewnosod, gwneud biopsi arennol a monitro ffistwla rhydwelïol er mwyn cael mynediad ar gyfer dialysis. Byddai cael peiriant uwchsain newydd ar gyfer cleifion arennol yn unig yn hwb enfawr i'r gwasanaeth.
Er mwyn esbonio i’r rhai nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r gamp, mae ‘sbinio’ yn golygu beicio yn erbyn gwrthiannau amrywiol ar feic statig. Mae “Vibe Cycle”, sef yr hyn y bydd y tîm yn ei wneud, yn codi'r tempo ymellach drwy ychwanegu cerddoriaeth tecno a dawns, ynghyd â fflach oleuadau er mwyn cynyddu’r her.
Darllenwch fwy: Meddygaeth Arennol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bydd yr holl arian a godir yn mynd elusen Cyfeillion Gofal Arennol Glan Clwyd. Mae’r rhai fydd yn cymryd rhan eisoes ychydig yn bryderus, oherwydd y bydd hyn mor wahanol i’r profiad o fod yn y mannau clinigol tawel a threfnus y maen nhw’n arfer â nhw.
Dywedodd y meddyg ymgynghorol arennol, Dr Hari Nair: “Mae hyn mor bell o’r hyn rwyf yn teimlo’n gyfforddus yn ei wneud, - ond mae'n werth yr ymdrech ar gyfer ein cleifion. Mae angen i ni atgoffa’n hunain ein bod yn delio bob dydd â phobl sydd yn derbyn triniaethau sydd mor bell o’r hyn y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei wneud.”
Ac aeth ymlaen i ddweud “Y gwahaniaeth yw fy mod i’n dewis gwneud hyn a bydd dwy awr o waith corfforol werth pob ymdrech os gallwn ni godi digon o arian ar gyfer yr offer hanfodol yma.”
Ond mae'r cyfan yn rhan o’i diwrnod gwaith, i un arall sydd yn cymryd rhan, sef Uwch Nyrs therapïau cartref Nicola Roberts, gan ei bod hi'n hyfforddwr rhan-amser Vibe Cycle yn stiwdio Vibe Den yn Ninbych. Mae’r seiclwyr yn cael defnyddio’r safle ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w helpu i gyrraedd eu targed ariannol.
Darllenwch fwy: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain y ffordd gyda'i system Colposgopi newydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
“Mae’n wych gweld cymaint o’n cydweithwyr yn barod i roi cynnig arni” meddai “a byddaf yn ceisio peidio â’u gweithio’n rhy galed dros y ddwy awr. A bod yn deg, maen nhw i gyd yn glinigwyr felly dylen nhw wybod sut i wneud yn siwr eu bod wedi hydradu’n iawn. Ond rwy’n poeni ychydig na fydd rhai ohonyn nhw’n cyrraedd y gwaith ddydd Llun.”
Dywedodd yr arbenigwr arennol, Dr Hemakumar Mallapa: “Mae’n rheswm gwych i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, oherwydd bod hyn ar gyfer ein cleifion. Mae’n werth ychydig o boen er mwyn medru gwneud rhywbeth i wella triniaeth ein cleifion. Dyna pam mae cymaint o staff wedi cytuno i wneud.”
Ers dau ddegawd mae Cyfeillion Gofal Arennol Glan Clwyd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r uned. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth i gleifion arennol a’u teuluoedd, maen nhw wedi ariannu offer a gwelliannau hanfodol.
Maen nhw wedi ariannu offer diferu ar gyfer cleifion sy’n derbyn dialysis yn eu cartref, gliniaduron y gallant eu defnyddio wrth gael dialysis ac offer i ddal peiriannau dialysis cartref cludadwy. Yn ogystal, maen nhw wedi talu am osod pwyntiau dialysis ar Ward 12, am beiriant pwysedd gwaed electronig o’r radd flaenaf a £25,000 ar gyfer system puro dŵr ar yr uned.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Sul, Tachwedd 9, rhwng 11am-1pm. Os ydych chi eisiau cefnogi'r tîm i gyrraedd eu targed ariannol, ewch i: Kalli Mclaughlan yn codi arian ar gyfer Awyr Las Gogledd Cymru - Blue Sky North Wales
Am ragor o wybodaeth am y gwaith y mae Cyfeillion Gofal Arennol Glan Clwyd yn ei wneud, ewch i: Cyfeillion Gofal Arennol Ysbyty Glan Clwyd
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr