Neidio i'r prif gynnwy

Claf awdioleg BIPBC yn un o'r cyntaf yn y DU i gael mewnblaniad 'clyfar' yn y cochlea

13.10.2025

Un o gleifion awdioleg y Bwrdd Iechyd yw un o'r bobl gyntaf yn y DU i gael mewnblaniad  clyfar yn y cochlea, sy’n driniaeth arloesol.

Defnyddir mewnblaniadau yn y cochlea i wella clyw pobl sydd â byddardod difrifol neu ddwys. Mae'r ddyfais newydd yn wahanol i fersiynau blaenorol oherwydd mae’n cadw gosodiadau rhaglennu personol teclyn cymorth clyw unigolyn yn ei gof mewnol. Mae hyn yn golygu y caiff gwybodaeth hanfodol ei chadw hyd yn oed os collir neu difrodir y prosesydd sain allanol.

Peter Hendrickse, a gafodd lawdriniaeth ar 11 Gorffennaf eleni, yw un o’r cyntaf o blith y bobl ffodus sydd wedi cael y teclynnau newydd hyn yng Ngogledd Cymru. Ar y pryd roedd yn un o blith llond dwrn o bobl ledled y DU oedd wedi cael y dechnoleg "glyfar" newydd hon. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd y llawdriniaeth gyntaf yn y DU i osod mewnblaniad o’r fath ychydig wythnosau cyn triniaeth Peter.

Wrth siarad yn ystod apwyntiad dilynol, esboniodd sut brofiad oedd ei fywyd cyn iddo gael y mewnblaniad a sut mae bywyd yn dechrau newid yn sgil hynny.

Darllenwch fwy: Awdioleg - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd: "Roeddwn i wedi bod yn defnyddio teclynnau cymorth clyw ond nid oeddwn i’n gallu clywed yn dda iawn wrth eu defnyddio. Byddai pobl yn sgwrsio bymtheg yn y dwsin â fi ond ni allwn eu clywed a deud y gwir.

"Rwy'n dal i addasu i'r mewnblaniad ac rwy'n dal yn methu â chlywed pobl yn siarad yn ystod galwadau ffôn ond mae pethau'n gwella. Bydd gwylio’r teledu yn eithaf anodd, ond caiff y derbynnydd ei addasu yn ystod bob apwyntiad. Rhaid i chi ddod i arfer â’r mewnblaniad. Mae’n rhaid i’ch ymennydd ddod i arfer â’r synau newydd.

 “Maent wedi fy nhrin yn dda iawn yma. Mae'r tîm yn wych."

Bydd Peter yn cael cyfres o apwyntiadau dilynol, ac yn ystod yr apwyntiadau hynny, bydd Alysia Dykes, gwyddonydd clinigol, neu un o'i chydweithwyr yn y tîm sy’n gyfrifol am fewnblaniadau yn y cochlea, yn defnyddio technoleg gyfrifiadurol i "fireinio" gosodiadau'r ddyfais i gyd-fynd ag anghenion Peter. Diben hyn yw sicrhau y gwnaiff y mewnblaniad gyfleu’r synau sydd o’i gwmpas mor gywir â phosibl.

Cof mewnol ei ddyfais newydd yw'r math cyntaf y gellir ei uwchraddio wrth i dechnoleg ddatblygu. Mae hynny’n gam enfawr ymlaen i gleifion, oherwydd gall mewnblaniad mewnol bara degawdau lawer heb orfod gosod un newydd yn ei le.

Gelwir y teclyn hwn yn fewnblaniad Nucleus Nexa, a honnir mai hwn yw mewnblaniad “clyfar” cyntaf y byd, a’r unig un hyd yn hyn. Caiff ei gyflenwad trydan o fatri allanol, ac mae hefyd yn defnyddio technoleg newydd i optimeiddio oes batri’r prosesydd sain allanol.

Drallenwch fwy: £4.4 miliwn ar gyfer offer diagnostig newydd yn ysbytai'r Gogledd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd y mewnblaniad newydd yn cynnig mantais enfawr i gleifion os byddant yn difrodi’r prosesydd sain allanol - y rhan y gallwch ei weld y tu allan i ben y defnyddiwr (defnyddir magned i’w fachu wrth y mewnblaniad mewnol).

Yn achos fersiynau blaenorol, pe bai unrhyw ddifrod yn digwydd, byddai angen apwyntiad i ail-raglennu un newydd. Yn achos y teclyn newydd, cedwir y wybodaeth honno ar y cof mewnol a gellir postio prosesydd newydd at yr unigolyn, gan ganiatáu i osodiadau rhaglennu personol teclyn cymorth clyw defnyddiwr gael eu huwchlwytho o'r mewnblaniad.

Caiff y mewnblaniad yn y cochlea ei osod trwy lawdriniaeth o dan y croen, a chaiff yr aráe electrodau ei mewnosod yn y cochlea (clust fewnol) i symbylu nerf y clyw yn drydanol. Bydd ein hymennydd yn dehongli'r ysgogiadau trydanol hyn fel sain.

Os gallwch ddychmygu bod rhaglennu'r teclyn yn debyg i addasu'r gosodiadau ar gyfartalwr graffeg cymhleth iawn, ac y caiff ei osod yn benodol ar gyfer pob claf, byddwch yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r holl ddata hynny. Dyma yw proffil sain personol claf i'w helpu i glywed y byd mewn ffordd sy'n briodol iddynt.

Bydd Gwasanaeth Mewnblaniadau Clyw Gogledd Cymru, sydd wedi'i leoli yn adran awdioleg Ysbyty Glan Clwyd, yn cael cyfeiriadau o bob rhan o Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn enghraifft arall sy’n profi pam ei fod yn gyrchfan boblogaidd i'r sawl sydd ag amhariad ar y clyw.

Dywedodd Jenny Townsend, pennaeth Gwasanaeth Mewnblaniadau Clyw Gogledd Cymru: "Rydym wrth ein bodd mai ni yw’r tîm cyntaf yn y DU i gynnig y dechnoleg newydd gyffrous hon. Rydym yn gobeithio y gwnaiff ganiatáu i gleifion elwa o ddatblygiadau technolegol ychwanegol yn ystod y degawdau nesaf, heb orfod cael rhagor o lawdriniaethau.

"Mae angen amser ac ymarfer i ddysgu sut i ddefnyddio mewnblaniad yn y cochlea ond gall sicrhau  gwelliannau sy'n gweddnewid bywydau o ran clywed a chyfathrebu. Mae'r nodwedd sy'n sicrhau ei bod hi'n haws i dderbynwyr dreulio llai o amser heb allu defnyddio eu teclyn cymorth clyw, os torrir neu os collir eu prosesydd, yn welliant gwerthfawr."

Yn achos Peter, sy’n byw yn Lerpwl ers pan oedd yn chwe blwydd oed, mae'r mewnblaniad eisoes wedi sicrhau bod y byd yn lle mwy diogel iddo, fel yr esboniodd: "Nid wyf yn gallu clywed synau uchel iawn ers tro byd. Ni allwn i fyth glywed fy larwm tân yn canu. Rwy’n gallu ei glywed erbyn hyn. Rwy’n credu ei fod yn swnllyd iawn erbyn hyn.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr