09/05/2024
Ar ôl dod â gwên i wynebau cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam am bron i ddau ddegawd, mae Ron Evans wedi ffarwelio â’i gydweithwyr a chleifion ar yr Uned Seren Wib.
Dechreuodd Ron, 83 oed o Hightown, Wrecsam, wirfoddoli yn 2008 fel Tywysydd, yn helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o amgylch yr ysbyty. Yn 2010 gofynnwyd iddo ddod yn Wirfoddolwr Robin ar yr Uned Seren Wib lle mae cleifion yn derbyn cemotherapi, ac mae wedi cynorthwyo ar yr uned ers hynny.
Dywedodd Ron: “Yn 2008 mi welais hysbyseb yn y papur newydd yn chwilio am Dywyswyr er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch yr ysbyty. Rwyf wedi derbyn llawdriniaethau yn yr ysbyty yn y gorffennol, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n dda rhoi rhywbeth yn ôl.
“Yn 2010 gofynnwyd i mi a fyddwn yn gwirfoddoli ar yr Uned Seren Wib, ac rwy'n cofio ar y dechrau fod gen i fy amheuon yn meddwl y byddai popeth yn drist a digalon yno. Ond na, i’r gwrthwyneb yn llwyr, mae'r staff yn rhagorol, ac mae'r cleifion i gyd yn helpu ei gilydd ac yn optimistaidd.
“Fy swydd yw cynorthwyo'r staff, llenwi’r jygiau dŵr, archebu cinio, helpu i rannu’r bwyd a siarad â'r cleifion. Rwy'n clywed cymaint o straeon diddorol. Roeddwn i’n teimlo mai fy mhrif rôl i oedd gwneud i'r cleifion wenu ond os oeddwn i’n gwneud iddyn nhw chwerthin, wel roedd hynny’n goron ar y cyfan”.
Yn ystod y pandemig ni ddaeth Ron i mewn i’r ysbyty am ddwy flynedd, tra nad oedd gwirfoddolwyr yn cael mynd i mewn, ond bryd hynny byddai'n dod at ffenestri'r uned i ddweud helo ac i siarad â'r cleifion a oedd yno ar gyfer eu cemotherapi.
Mae Ron, cyn Beiriannydd Mordwyo yn yr RAF yn teimlo mai nawr yw’r amser iawn i ymddeol (eto), ond mae'n dweud y bydd yn treulio ei amser yn cerdded ychydig o lwybr yr arfordir a pharhau â'i waith coed.
Mae’r Gwirfoddolwyr Robin, neu’r Robiniaid (oherwydd eu crysau polo coch llachar) yn adnabyddus am eu natur gyfeillgar a'u parodrwydd i helpu eraill, ac mae Ron wedi dod yn wyneb cyfarwydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl cefnogi cannoedd o gleifion.
Dywedodd Julie Parry, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Robin: ‘Rydym mor lwcus ein bod wedi cael Ron yn rhan o dîm y Robiniaid dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae’n unigolyn mor ffeind, meddylgar a gofalgar, sydd bob amser yn rhoi’r claf yn gyntaf. Er bod ganddo synnwyr digrifwch anhygoel, roedd Ron yn cymryd ei ddyletswyddau ar y ward o ddifrif - roedd bob amser wrth law i wneud paned, helpu yn ystod amser cinio a chynnig clust gyfeillgar i gleifion a staff y ward.
“Dymunwn ymddeoliad hapus i Ron ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am ei anturiaethau.”
Os oes gennych ychydig o oriau’n sbâr bob wythnos ac yr hoffech wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion, ymwelwyr a staff, gallwch ddarganfod mwy am Wirfoddolwyr Robin yma neu drwy e-bostio bcu.robins@wales.nhs.uk