Neidio i'r prif gynnwy

Ffair dillad isaf a dillad nofio yr ysbyty yn rhoi hwb i ferched yr effeithir arnynt gan lawdriniaeth canser y fron

29.11.2024

Bydd ffair dillad isaf a dillad nofio yn yr ysbyty yn dangos i ferched yr effeithir arnynt gan lawdriniaeth canser y fron nad oes rhaid iddynt ddewis dillad isaf a dillad nofio diflas.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar Ragfyr 12 yn Ysbyty Glan Clwyd, yn dod â dillad isaf a dillad nofio a gynllunir gan gyflenwyr adnabyddus, er mwyn dangos nad oes rhaid aberthu steil wrth ddewis dillad isaf a dillad nofio ar ôl llawdriniaeth.

Efallai nad yw'n ymddangos fel rhywbeth pwysig i'r rhai nad ydynt erioed wedi cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron. Ond i nifer sydd wedi cael y llawdriniaeth, mae edrych a theimlo'n dda mewn dillad cyfforddus, benywaidd, yn rhan o’r daith i adennill ymdeimlad o’u hunain ar ôl triniaeth sy'n newid eu bywydau.

Un o’r rhai sy'n cefnogi'r ffair yw Danielle Robinson, 37 oed. Cafodd ddiagnosis o ganser y fron ddwy flynedd yn ôl. I ddechrau, roedd hi'n meddwl bod ganddi fastitis ond yna cafodd ddiagnosis o ganser y fron cam pedwar, positif triphlyg, a oedd wedi lledu i'r iau.

Darllenwch fwy yma: Canser – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cafodd chwe rownd o gemotherapi dos uchel, mastectomi chwith lawn a’r prognosis oedd bod ganddi ddwy neu dair blynedd o fywyd ar ôl. Er gwaethaf hyn, mae Danielle yn parhau i fod yn bositif ac mae wedi ymroi’n  llawn i helpu eraill trwy wneud gwaith elusennol gyda Make2ndscount a Breast Cancer Now. Mae hi hefyd yn cynnal grŵp paned a sgwrs yn y Rhyl, ar gyfer merched â chanser y fron eilaidd (canser y fron sydd wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff).

Mae Danielle hefyd yn achub ar bob cyfle i fynd ar wyliau dramor gyda’i gŵr Dean a’i mab saith oed Theo, yn eu camperfan. Mae’n dweud ei bod yn gwrthod gadael i'r canser ei diffinio.

Fodd bynnag, pwysleisiodd effaith seicolegol ei thriniaeth, gan gynnwys yr effaith ar ei hagwedd at ddelwedd ei chorff ac anhawsterau  gydag agosatrwydd o fewn perthynas o’r herwydd, ynghyd â’r diffyg opsiynau o ran dillad isaf a dillad nofio addas ar ôl y llawdriniaeth.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli beth fyddai’r effaith tan ar ôl y llawdriniaeth,” meddai Danielle. “Dw i’n meddwl, yn seicolegol, ei fod yn effeithio gymaint arnoch chi mewn gwirionedd – o ran agosatrwydd, sut rydych chi’n edrych, sut mae dillad yn ffitio chi, sut mae dillad isaf yn ffitio chi, y newidiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud wrth ddewis dillad – ac yn sgil hynny mae eich hyder cyffredinol yn diflannu.”

Eglurodd Danielle pam ei bod yn cefnogi'r ffair. Ar ôl ei mastectomi, mae’n cofio chwilio am fra mewn siop a disgrifiodd sut yr oedd hynny’n gwneud iddi deimlo.

“Doeddwn i ddim yn teimlo fel merch nac yn fenywaidd o gwbl,” datgelodd. “Yr unig ddewis oedd y peth gwyn plaen yma. Felly gofynnais, ‘Ai dyna’r cyfan sydd gennych chi?’ Dywedodd y wraig, ‘Ie, does gen i ddim byd arall’. Ac roeddwn i’n meddwl, ‘O mam bach!’.

“Rwy’n deall bod angen rhai mathau penodol o fra yn syth ar ôl y llawdriniaeth ond, chwe wythnos ar ôl llawdriniaeth  fe wnes i drefnu i ddod i’r ysbyty i drio ambell fra. Roedd y steiliau a ddangoswyd i mi – wel, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod rhai felly’n bodoli. Roedd gan y wraig yma bethau neis iawn i ddangos ond yn gyffredinol mae'r dewis yn ofnadwy o wael i fenywod ar ôl iddynt gael eu llawdriniaeth.”

Darllenwch fwy: Gwasanaeth cemotherapi arloesol newydd yn lleihau amseroedd aros ac yn symleiddio apwyntiadau ar gyfer triniaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd Danielle y bydd yn mynd i'r ffair ac mae'n lledaenu'r wybodaeth amdano gymaint â phosibl. Mae hi'n credu y bydd yn apelio at lawer o fenywod sydd wedi bod trwy lawdriniaeth canser y fron, yn ogystal â chemotherapi a/neu radiotherapi.

Ychwanegodd: “Gall Cemo ddwyn eich gwallt, eich aeliau, eich amrannau. Gall merched gael mastectomi neu lympectomi, neu fastectomi dwbl. Gallwch deimlo'n llythrennol nad oes dim byd ar ôl ohonoch chi.

“Mae'n tynnu'ch hyder yn llwyr ac mae’n bwysig i gael y gefnogaeth yma wedyn, mae’n bwysig gweld bod yna bethau ar gael, bod yna ddillad isaf neis y gallwn ni eu gwisgo. Mae yna ddillad nofio da am brisiau fforddiadwy.

“Roedd yr opsiynau a roddodd y ferch oedd yn fy ffitio yng Nglan Clwyd i mi yn wych.”

Trefnydd y digwyddiad yw’r ymarferydd gofal y fron cynorthwyol Lindsey Williams ac eglurodd ei rhesymau dros drefnu’r ffair. “Canser y fron yw’r mwyaf cyffredin o’r holl ganserau yn y DU.” Meddai.  “Mae angen llawdriniaeth ar lawer o fenywod yr effeithir arnynt gan y clefyd, boed hynny’n fastectomi neu lympectomi.

“Mae’n hynod bwysig, ar ôl llawdriniaeth, ein bod yn helpu menywod nid yn unig i wella o’r effeithiau corfforol ond hefyd effeithiau seicolegol y llawdriniaethau hyn. Wrth i'r creithiau gweladwy wella, mae gallu edrych a theimlo'n dda a chadw’r teimlad o fod yn fenywaidd yn helpu'r broses iacháu seicolegol.

“Rydyn ni eisiau dathlu’r merched hyn a dangos iddyn nhw fod yna ddewisiadau ar gael o ran yr hyn y gallan nhw ei wisgo. Mae mwy a mwy o gwmnïau'n sylweddoli bod y merched hyn eisiau gweld dewis a dillad priodol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer eu cyrff.

Darllenwch fwy: Diagnosis cyflym gan glinig arbenigol yn tawelu ofnau canser mam i bedwar o blant - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Er ein bod yn eu cynghori a’u helpu ar ôl llawdriniaeth, rydym am i bob menyw sydd wedi bod trwy lawdriniaeth canser y fron ddeall bod dillad isaf a dillad nofio ar gael sy’n darparu’n benodol ar eu cyfer.”

Cynhelir Ffair Dillad Isaf a Dillad Nofio Glan Clwyd ar ddydd Iau, Rhagfyr 12, rhwng 6-8pm, yng nghoridor E yr ysbyty.

Mae croeso i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y fron i fynychu. I archebu lle, cysylltwch â Lindsey ar 03000 846008 gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd gennym.

Bydd Nicola Jane, Anita, Trulife a Womanzone ymhlith y rhai fydd yn cyflwyno eu dillad.  

Gwybodaeth ychwanegol:

  • Yn ystod y 12 mis diwethaf a aseswyd, mae'r Bwrdd Iechyd wedi trin 772 o achosion canser y fron, gyda 571 o’r rhain wedi cael llawdriniaeth fel eu triniaeth gyntaf
  • Ceir tua 56,000 o achosion newydd o ganser y fron ymhlith menywod yn y DU bob blwyddyn: mae hynny'n fwy na 150 o achosion bob dydd
  • Ceir tua 400 o achosion newydd o ganser y fron mewn dynion bob blwyddyn
  • Mae canser y fron yn cynrychioli 15% o'r holl achosion canser newydd yn y DU a 30% o achosion newydd o ganser mewn merched
  • Gallwch ddod o hyd i ragor o ystadegau am ganser y fron yma: compendium-executive-summary-2024.pdf

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)