Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi agor campfa newydd o’r radd flaenaf ar gyfer ei chleifion canser sy’n cael llawdriniaeth fawr.
Bydd myfyrwyr ar gyrsiau gradd Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam yn ymgymryd â modiwlau dysgu newydd seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn iddynt allu cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf tra ar leoliad.
Mae staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ffurfio côr lles newydd ac mae'n derbyn ymateb aruthrol gan staff.
Mae grŵp o bobl ifanc wedi graddio o’u hinterniaeth 12 mis gan dderbyn eu tystysgrifau mewn seremonïau ar draws Gogledd Cymru gyda’u teuluoedd.
Penderfynodd arbenigwr mewn delweddu uwchsain ddilyn ei yrfa yng Ngogledd Cymru oherwydd ei fod yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith - gyrfa werth chweil a gweithgareddau awyr agored.
Yn ei fywyd bob dydd, mae Alex Damico, Gwyddonydd Fasgwlaidd Clinigol sy’n gweithio ym maes Radioleg yn Ysbyty Gwynedd, yn archwilio’r rhwydweithiau cymhleth o bibellau sy’n cludo gwaed o amgylch ein cyrff.
Erbyn hyn mae’n swyddogol mai Ysbyty Gwynedd yw canolfan hyfforddi robotig gyntaf y GIG yng Nghymru i hyfforddi llawfeddygon eraill mewn llawdriniaethau robotig ar y pen-glin.
Mae'n bleser gan Maggie's, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Sefydliad Steve Morgan gyhoeddi bod gwaith ar fin dechrau ar adeiladu canolfan cymorth canser Maggie's yng Ngogledd Cymru ar 11 Gorfennaf.
Mae nyrs galon fawr o Glan Clwyd yn helpu i atgyweirio bywydau a gwên plant difreintiedig a anwyd â gwefus a thaflod hollt.
Mae tri o dimau’r Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau mawreddog GIG Cymru eleni.
Gofynnir i ymwelwyr a staff sy’n teithio i Ysbyty Glan Clwyd gydweithredu â’r llif traffig newydd am hyd at 32 wythnos tra bydd gwaith ffordd yn mynd rhagddo er mwyn diogelu derbyniadau brys.
Mae dyn a fu'n tarfu ar ysbytai ac unedau mân anafiadau ar draws gogledd Cymru, gan ddychryn staff a chleifion, wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol pum mlynedd.
Nid oedd Paul Taylor, 51, yn meddwl y byddai’n bosibl iddo fynd i weld sioe Peter Kay Live, sioe yr oedd yn ysu i’w gweld. Roedd yn cael triniaeth gofal lliniarol yn ei gartref ar ôl clywed bod y tiwmor ar ei ymennydd yn angheuol.
Mae claf arennol ar fin mynd ar ei gwyliau cyntaf ers pymtheg mlynedd ar ôl derbyn peiriant dialysis symudol mae’n gallu cludo'n hawdd yng nghefn ei char.
Cynhelir Wythnos Gwirfoddolwyr yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin bob blwyddyn, ac mae'n gyfle i fudiadau gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu cymunedau.
Yr wythnos hon, bydd James Norton, un o sêr y gyfres Happy Valley, yn darllen stori awdur a seicolegydd o Wrecsam ar raglen CBeebies Bedtime Story i helpu plant ifanc ddeall mwy am ddiabetes a sut y gellir ei reoli.
Mae nyrs fasgwlaidd flaenllaw yn arwain y ffordd o ran gwneud staff ac, yr un mor bwysig, gleifion yn ymwybodol o arwyddion clefydau gwythiennol yn rhannau isaf y coesau.
Heb eu trin, gall cyflyrau arwain at wlserau coesau sy'n gwrthod iacháu ac sy'n gallu arwain at dorri'r coesau i ffwrdd neu bethau gwaeth. Mae'r cyfan yn rhan o "Leg Matters", sef wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis a dulliau rheoli cynnar o ran cyflyrau sy'n effeithio ar gylchrediad y gwaed yn y coesau.