Mae gyrrwr bws yn ôl y tu ôl i'r llyw ddeufis yn unig ar ôl llawdriniaeth i osod clun newydd, diolch i'r tîm Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd.
Rydym yn falch o rannu’r newyddion bod Dr Sreeman Andole wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro ac y bydd yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd ar 1 Rhagfyr.
Mae’r tîm gofal iechyd sy’n gyfrifol am ficro-ddileu Hepatitis C yng Ngharchar y Berwyn, carchar mwyaf y DU, wedi ennill Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru.
Rydym yn falch o rannu'r newyddion bod Tehmeena Ajmal wedi'i phenodi yn Brif Swyddog Gweithredu newydd.
Yn ystod Mis Hanes Anabledd, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru wedi lansio Panel Mynediad fel rhan o fenter dwy flynedd i hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys ysbytai, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac eraill.
Mae teuluoedd sydd wedi profi colli plentyn yn cael eu gwahodd i Wasanaeth blynyddol Sêr Disglair Ysbyty Maelor Wrecsam.
Daeth cynrychiolwyr o dri chorff cyhoeddus at ei gilydd i gondemnio cyrch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn erbyn ysbyty lleol.
Gallai symud Uned Ddydd Feddygol Ysbyty Glan Clwyd (MDU) i ward fwy leihau ymhellach y derbyniadau i’r ysbyty ac amseroedd aros Adrannau Achosion Brys, yn ôl arweinydd clinigol.
Symudodd yr MDU yn ddiweddar i Ward 19, sef y Lolfa Ryddhau gynt, felly y gellid gweld mwy o gleifion y bydd arnynt angen gweithdrefnau arferol megis trwythiadau haearn, draenio hylif a thriniaethau awto-imiwn.
Mae grŵp cymorth stoma newydd o’r enw Three Bags Full wedi’i lansio’n ddiweddar yn yr Wyddgrug ac mae’n gwahodd eraill i ymuno.
Rydym yn falch iawn o rannu enillwyr Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC 2024.
Mae meddygon dan hyfforddiant wedi graddio Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae cleifion canser yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn elwa o wasanaeth newydd sydd wedi lleihau eu hamser aros am driniaeth yn ystod eu hymweliad â'r ysbyty ac wedi gwella eu profiad o drefnu apwyntiadau.
Pan ddisgynnodd ei gar ar ei ben, methodd calon dyn ifanc o Gaerwen, ac erbyn hyn mae wedi cael aduniad gyda'r cymdogion a'r tîm meddygol a achubodd ei fywyd.
Mae’r fferyllfa yn yr Orsedd wedi symud i adeilad llawer mwy a mwy modern, gan gynnig gwasanaeth rhagnodi annibynnol newydd, a hynny am y tro cyntaf.
Mae timau llawfeddygol a staff theatr yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi cynnal mwy na 140 o lawdriniaethau â chymorth robotig – gan ddod â gwellhad cyflymach a llai poenus i gleifion.
Mae rhieni bachgen bach a fu farw’n drasig o lid yr ymennydd yn naw mis oed yn annog rhieni eraill i fod yn fwy ymwybodol o symptomau’r clefyd.
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi agor Ysgol Feddygol y Gogledd yn swyddogol.
Mae merch ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio canolfan argyfwng cymunedol cynlluniedig.
Mae gan Aaliyah Ramessur awtistiaeth, ac y mae hi wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys meddyliau hunanladdol trwy gydol ei phlentyndod ac wedi hynny. Siaradodd yn ddewr am ei phrofiadau a sut nad oedd yr Adrannau Achosion Brys yn teimlo fel y lle cywir i fod, fel plentyn yn wynebu argyfyngau iechyd meddwl.
Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno noson rhannu fis Hydref, MonologAYE y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) sy’n ddilyniant o brosiect cyntaf MonologAYE yn 2023. Dyma gyfle i glywed straeon personol a phroffesiynol unigolion sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd drwy eu monologau personol.