Mae MI FEDRAF Weithio yn helpu pobl sydd â phroblemau ysgafn i gymedrol ddod o hyd i waith a'i gadw er mwyn cefnogi eu hadferiad.
Mae'r rhaglen, sydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn cael ei darparu gan ein staff mewn partneriaeth ag elusen gwasanaethau cefnogi personol, CAIS, a Strategaeth Dinas y Rhyl, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.
Gwyddom fod llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol eisiau gweithio, ond eu bod angen mwy o gefnogaeth i wneud hynny. Mae bod mewn gwaith yn darparu gweithgaredd ystyrlon sy'n helpu i wella iechyd, lles ac ansawdd bywyd.
Mae Mi FEDRAF Weithio yn seiliedig ar egwyddorion y Rhaglen Cefnogaeth a Lleoliadau Unigol lwyddiannus (IPS), sy'n cael ei hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, fel y model arweiniol i helpu unigolion sydd ag iechyd meddwl gael i mewn i waith.
Mae Mi FEDRAF Weithio yn seiliedig ar wyth egwyddor syml, sy'n seiliedig ar dystiolaeth:
- Mae'n anelu at gael pobl i mewn i waith cyflogedig (nid gwirfoddoli neu waith di-dâl)
- Mae'n agored i bawb sydd eisiau gweithio, ac sy'n cael cefnogaeth gan weithiwr proffesiynol iechyd ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Bydd Mi FEDRAF Weithio hefyd yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd eu cyflwr
- Mae'n ceisio dod o hyd i swyddi sy'n gyson â dewisiadau unigolion
- Mae'n gweithio'n sydyn- mae Mi FEDRAF Weithio yn anelu at ddechrau chwilio am swyddi o fewn 30 niwrnod
- Mae'n dod â thimau Mi FEDRAF Weithio a gweithwyr proffesiynol iechyd at ei gilydd, fel bod cyflogaeth yn dod yn rhan greiddiol o adferiad a lles
- Mae timau Mi FEDRAF Weithio yn datblygu perthnasoedd â chyflogwyr fel y gallent baru unigolyn â swydd yn seiliedig ar y dewisiadau o ran gwaith, nid yn seiliedig ar bwy sydd â swyddi ar gael
- Mae'n darparu cefnogaeth unigol barhaus ar gyfer yr unigolyn a'i gyflogwr, gan helpu unigolion i gadw eu swyddi yn ystod amseroedd anodd
- Mae cwnsela budd-daliadau yn rhan ohono, oherwydd ni ddylai neb fod yn waeth eu byd oherwydd eu bod eisiau gweithio
Pwy sy'n gallu cael cefnogaeth gan MI FEDRAF Weithio?
Er mwyn bod yn rhan o'r rhaglen byddwch angen cytuno i gael eich argymell i'r cynllun Mi FEDRAF Weithio gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd. Bydd Mi FEDRAF Weithio hefyd yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd eu cyflwr.
Efallai y bydd unigolion sy'n derbyn cefnogaeth gan Mi FEDRAF Weithio yn profi un neu nifer o'r canlynol:
- Iselder neu hwyliau isel
- Pryder
- Pyliau o banig
- Anhwylder gorfodaeth obsesiynol
- Ymateb emosiynol anarferol
Sut mae taith arferol Mi FEDRAF Weithio yn edrych?
- Byddwch yn cyfarfod â Chynghorydd Mi FEDRAF Weithio, fydd yn trafod eich amcanion o ran swydd
- Ar ôl y cyfarfodydd cychwynnol, bydd y tîm Mi FEDRAF Weithio yn gweithio gyda chi yn syth i ddod o hyd i swyddi cyflogedig
- Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwyr i helpu i fodloni eich amcanion
- Bydd y tîm Mi FEDRAF Weithio yn darparu cyngor manwl am fanteision ac effaith dychwelyd i'r gwaith ar incwm unigolion
- Bydd y tîm Mi FEDRAF Weithio yn parhau i ddarparu cefnogaeth nes nad oes ei hangen mwyach
Manylion cyswllt
Mae CAIS yn darparu cefnogaeth Mi FEDRAF Weithio yng Ngwynedd, Wrecsam a Sir y Fflint, gyda Strategaeth Dinas y Rhyl yn cwmpasu Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych.
Gwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint
Naomi Oakley
icanwork@cais.org.uk
Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych
Christine Swain
icanwork@rcs-wales.co.uk