Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd

 

 

Arweinydd Hyderus o ran anabledd: Mae Hyderus o ran Anabledd yn ehangu ac yn dyfnhau ein hymrwymiad presennol fel cyflogwr ac, yn BIPBC, rydym yn ymrwymedig i'r camau gweithredu canlynol:

  • mynd ati'n rhagweithiol i ddenu pobl anabl a'u recriwtio
  • darparu proses recriwtio cwbl gynhwysol a hygyrch
  • cynnig cyfweliadau i bobl anabl sy'n bodloni meini prawf y swydd
  • bod yn hyblyg wrth asesu pobl fel bod ymgeiswyr swyddi anabl yn cael y cyfle gorau i ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith
  • gwneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen
  • annog ein cyflenwyr a'n partneriaid i fod yn Hyderus o Ran Anabledd
  • sicrhau bod gan weithwyr ymwybyddiaeth ddigonol o gydraddoldeb i bobl anabl
  • hybu diwylliant o fod yn Hyderus o ran Anabledd
  • cefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau neu gyflyrau iechyd
  • sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i ddatblygiad a dilyniant staff anabl