Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Fferylliaeth Iechyd Meddwl

Trwy ein Gwasanaeth Fferylliaeth Iechyd Meddwl, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer arloesi a'n gweledigaeth yw sicrhau gofal integredig a gweithio'n agos gyda chydweithwyr i sicrhau bod gofal cleifion yn ddi-dor.

Mae nawr yn amser cyffrous i drawsnewid ein gwasanaethau fferylliaeth ac yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn ein Gwasanaethau Fferylliaeth Iechyd Meddwl, rydym yn chwilio am Fferyllwyr Clinigol a Thechnegwyr Fferylliaeth arloesol, deinamig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm sy'n ehangu.

Rydym yn gwneud y ffordd ymlaen drwy ehangu ein gwasanaethau i'r gymuned, cefnogi cleifion yn eu cymunedau lleol drwy optimeiddio meddyginiaethau, a darparu agwedd gyfannol at iechyd meddwl a lles corfforol. Rydym hefyd yn cefnogi rhagnodi electronig a chadw at feddyginiaethau.

Mae ein Fferyllwyr yn glinigwyr uchel eu parch a byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich rôl fel rhagnodwr anfeddygol ac i ddatblygu sgiliau clinigol perthnasol trwy Fframwaith Fferylliaeth Uwch yr RPS (a ategir gan dystysgrif / diploma a chydnabyddiaeth y Coleg Fferylliaeth Iechyd Meddwl).

Gan weithio o fewn Fferylliaeth Iechyd Meddwl, byddwch yn rhan annatod o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu ystod eang o arbenigeddau a bydd y ffocws ar optimeiddio meddyginiaeth i gleifion gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cyswllt uniongyrchol â chleifion. Mae BIPBC wedi ymrwymo i ofalu am ein cleifion o fewn eu cymunedau eu hunain a byddwch yn gweithio gyda’n holl gydweithwyr ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd i gefnogi cleifion ar hyd eu taith.

Mae'n rôl hynod werth chweil ac yn dîm cyffrous a blaengar i fod yn rhan ohono!