Mae ein tîm Fferylliaeth yng Ngogledd Cymru yn lle cyffrous i fod. Rydym yn gymuned iechyd integredig, y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ar draws Gogledd Cymru. Mae hyn yn galluogi staff i weithio / cael mynediad at hyfforddiant ym mhob lleoliad a rôl wirioneddol aml-sector.
Mae gennym gyfoeth o gyfleoedd o fewn ein gwasanaethau i Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferylliaeth mewn nifer o leoliadau. Pan fyddwch chi'n ymuno â thîm BIPBC, bydd gennych chi'r gorau o ddau fyd - yn gweithio ar y lefel uchaf yn broffesiynol ac yn byw mewn ardal brydferth lle gallwch chi wir fwynhau bywyd.
Rydym yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Mae yna weledigaeth glir ar gyfer ein gwasanaethau ac os ydych chi'n awyddus i ddatblygu, mae digon o gyfleoedd lle byddwch chi'n camu y tu allan i'r arfer. O weithio aml-sector i rolau Fferylliaeth Glinigol arbenigol, byddwch chi'n gallu llywio'ch gyrfa mewn gwirionedd.
Mae'r radd Fferylliaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael sêl bendith, a bydd myfyrwyr yn dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2025. Y rhaglen gradd Meistr Fferylliaeth (MPharm) pedair blynedd yw'r prif lwybr y mae myfyrwyr yn ei ddilyn i ddod yn fferyllwyr. Darllen mwy - Prifysgol Bangor yn Lansio Gradd Fferylliaeth Newydd i Fynd i'r Afael ag Anghenion Gofal Iechyd Lleol a Chenedlaethol | Prifysgol Bangor .
Mae Prifysgol Bangor ar fin agor ei drysau i fyfyrwyr wneud cais am ein rhaglen israddedig Fferylliaeth newydd sy'n dechrau ym mis Medi 2025, i ddarganfod mwy am y cwrs - Fferylliaeth MPharm | Prifysgol Bangor .