Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gyrraedd yma

Darperir lloches beiciau ar y ffordd wasanaethu ychydig rownd y gornel o fynedfa'r Adran Achosion Brys (A&E).

Rydym ar hyn o bryd yn diweddaru ein mapiau ysbytai.

Ar y trên: Ewch i Traveline Cymru neu National Rail i gael gwybodaeth am amseroedd bysiau a theithiau trên.

Lleolir yr ysbyty tua dwy filltir o Orsaf Bangor. Mae nifer o wasanaethau bws o Ganol Dinas Bangor yn gweithredu drwy'r Orsaf Drenau ac ymlaen i Ysbyty Gwynedd.

Ar y bws: Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0800 464 0000 / cynlluniwr taith: Traveline Cymru

Gwasanaethir Ysbyty Gwynedd yn dda gan wasanaethau bws aml. Bysus uniongyrchol o Gaergybi, Porthaethwy, Biwmares, Llandudno, Bangor, Bethesda, Llanberis, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau ac Aberystwyth.

Mewn car: Rhowch y cyfeiriad canlynol yn eich ap map i gael cyfarwyddiadau i safle'r ysbyty: Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW