Cyfeiriad: Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01248 384 384
Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ysbytai ar gael yma.
Mae gwybodaeth a rhifau cyswllt ar gyfer wardiau Ysbyty Gwynedd ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma.
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os na allwch ddod i'ch apwyntiad ysbyty.
Cofrestrwch i wasanaeth atgoffa am apwyntiadau ysbyty i'ch helpu chi fel claf i gofio manylion eich apwyntiad.
Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref yn syth ar ôl derbyn gofal yn un o'n hysbytai. Caiff hyn ei drafod o fewn 24 awr i'ch derbyn i'r ysbyty, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Darperir lloches beiciau ar y ffordd gwasanaeth sydd rownd y gornel i fynedfa'r Adran Achosion Brys.
Trên: Ewch i Traveline Cymru neu National Rail am wybodaeth ynghylch teithio ar drên ac amseroedd bysiau.
Mae'r ysbyty tua 2 filltir o Orsaf Drenau Bangor. Mae nifer o fysiau yn mynd o ganol dinas Bangor, heibio'r orsaf drenau ac ymlaen i Ysbyty Gwynedd.
Bws: Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0800 464 0000 defnyddiwch eu cynlluniwr taith: Traveline Cymru.
Mae gwasanaethau rheolaidd i Ysbyty Gwynedd. Mae yna wasanaeth uniongyrchol o Gaergybi, Porthaethwy, Biwmares, Llandudno, Bangor, Bethesda, Llanberis, Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau ac Aberystwyth.
Car: Gadewch yr A55 ar gyffordd 9 a throwch i'r chwith ar ddiwedd y ffordd ymadael. Yn y gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa am Benrhosgarnedd. Yn y gyffordd (cyferbyn â Garej JLS) trowch i'r chwith ar Ffordd Penrhos. Mae Ysbyty Gwynedd tua hanner milltir ar hyn hon ar yr ochr dde.