Trefniadau ymweld Pediatreg, Newydd anedig Ychwanegol, wardiau cyffredinol â Adrannau Achosion Brys.
Gall y sefyllfa mewn unrhyw leoliad gofal iechyd newid yn gyflym. Er diogelwch ein babanod, cleifion, ymwelwyr a staff, efallai y caiff cyfyngiadau eu hail-gyflwyno ar fyr rybudd. Byddwn yn parhau i gael ein llywio gan gyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, niferoedd derbyniadau COVID-19, achosion ysbyty, Polisi Atal a Rheoli Heintiau ac asesiadau risg lleol.
I wneud cais am wybodaeth bellach am sut yr ydym yn asesu trefniadau ymweld ar gyfer mamolaeth, gallwch gysylltu yma.
Caiff hyd at ddau bartner geni fod yn bresennol yn ystod y cyfnod esgor.
Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall os na all y partner geni fynychu, ymweld â'r wardiau cyn-geni/ôl-enedigol ar unrhyw amser rhwng 9am hyd 8pm yn ddyddiol, nid oes angen trefnu. Mae croeso hefyd i frodyr neu chwiorydd y babi fynychu ynghyd â'r partner geni unigol neu unigolyn enwebedig arall yn ystod y cyfnod hwn i gwrdd â'r aelod(au) newydd o'r teulu.
Rhwng 12pm a 2pm, rydym yn anelu at roi amser i famau a babanod orffwys a gofynnwn i bartneriaid geni unigol ac unigolion enwebedig sy'n bresenol, barchu'r amser yma.
Mae ymweliadau cyffredinol ar gael o 2pm hyd 4pm ac o 6pm hyd 8pm (dim angen trefnu), ar gyfer hyd at ddau ymwelydd ar un amser wrth erchwyn y gwely oni bai bod amgylchiadau arbennig. Mae'r cyfyngiad ar y nifer o bobl a ganiateir wrth erchwyn y gwely yn parhau i amddiffyn ein cleifion, babanod, staff ac ymwelwyr eraill.
Ni chaniateir ymwelwyr mewn ardaloedd lle mae amheuaeth neu gadarnhad o achosion o COVID-19, ar wahân i amgylchiadau eithriadol. Rhaid gwisgo masgiau wyneb gyda mesurau PPE ychwanegol ar gyfer ymweld ag ardal goch COVID neu fel partner geni enwebedig i glaf sy’n bositif am COVID. Bydd staff yn arwain cleifion trwy'r broses hon.
Ni ddylai ymwelwyr fynychu os oes ganddynt hwy neu aelodau o'u haelwyd symptomau sy'n awgrymu COVID-19 neu heintiau eraill, er enghraifft y Ffliw, Norofeirws ac ati.
Gall hyd at ddau bartner geni fynychu gyda'u partner yn ystod y cyfnod esgor gweithredol. Dim ond un partner geni gaiff fynychu'r theatr ar gyfer triniaeth ddewisol neu doriad Cesaraidd brys.
Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall fynychu'r apwyntiadau canlynol:
Diweddariad – mis Ebrill 2024
Rydym yn ailddechrau cynnig gwasanaeth genedigaethau yn y cartref. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i adfer y gwasanaeth ar ôl iddo gael ei atal dros dro oherwydd pwysau parhaus ar y system.
Os ydych yn disgwyl ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am roi genedigaeth yn y cartref, cysylltwch â'ch tîm bydwreigiaeth cymunedol. Byddant yn eich cefnogi, yn ateb eich cwestiynau, ac yn eich arwain trwy'ch dewisiadau geni i'ch helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi a'ch babi.
Rydym yn annog teuluoedd a ffrindiau cleifion yn ein gofal i ystyried dulliau eraill o gadw mewn cysylltiad. Mae hyn yn cynnwys defnydd o WiFi ysbyty am ddim i ddefnyddio Facetime neu alwad fideo. Gallwn roi cymorth yn hyn o beth a gall cleifion mewnol fenthyca iPad o'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS) i'w ddefnyddio ar y ward.
Maen nhw yma i'ch helpu chi ac fe wnânt eu gorau i ddatrys materion yn gyflym ac uniongyrchol gyda'r rheiny dan sylw. Os oes gennych ymholiad ynghylch cyfyngiadau ymweld neu bryder am ffrind neu berthynas sydd wedi dod i'r ysbyty, cysylltwch â PALS, 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahân i wyliau’r Banc).