Rydym yn cynnig gwasanaethau ffrwythloni yn safleoedd ein tri phrif ysbyty (Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam). Mae gennym Ymarferwyr Nyrsio Arbenigol a Gynaecolegwyr Ymgynghorol â diddordebau arbennig ym maes ffrwythlondeb a wnaiff eich cynorthwyo a'ch llywio trwy gydol eich taith ffrwythloni.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall y broses ymdebygu i ffigar-êt emosiynol, ac rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad wrth i chi fwrw ymlaen â'ch gofal a'ch triniaeth ynghylch ffrwythlondeb. Byddwch yn cael manylion cysylltu eich Ymarferydd Nyrsio Arbenigol yn ystod eich apwyntiad cyntaf.
Rydym yn cynnig gwasanaethau ffrwythloni i'r sawl sy'n profi anawsterau wrth geisio dod yn feichiog. Mae triniaethau ffrwythloni ar gael i gleifion cymwys sy'n bodloni meini prawf penodol. Bydd eich meddyg teulu yn eich asesu i ddechrau, ac wedi hynny, efallai cewch eich cyfeirio i gael profion ac archwiliadau yn eich ysbyty lleol. Sgwrsiwch â'ch meddyg teulu i ddechrau os ydych chi'n pryderu am anffrwythlondeb posibl.
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, byddwn yn trafod eich hanes meddygol a chymdeithasol er mwyn deall beth sydd arnoch ei angen gan ein gwasanaeth ffrwythloni. Yna, byddwn yn cynnig ymchwiliadau a phrofion perthnasol i ganfod a oes unrhyw achos penodol wrth wraidd yr anffrwythlondeb. Bydd apwyntiadau dilynol yn cynnwys trafodaethau ynghylch canlyniadau eich ymchwiliad a'ch profion er mwyn parhau â chynllun triniaeth a gofal yn ymwneud â ffrwythloni.
Fel rhan o'n gwasanaethau ffrwythloni, byddwch yn cael cyngor ynghylch sut i wella ffrwythlondeb trwy sicrhau bod eich iechyd ar ei orau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau beichiogrwydd iach a baban iach. Trwy ddilyn y cyngor hwn ynghylch iechyd a ffordd o fyw, gallwch hefyd wella'r cyfraddau llwyddiant os bydd angen triniaethau ffrwythloni.
Ceir llawer o bethau a allai achosi anffrwythlondeb. Fodd bynnag, weithiau, gall fod yn anodd canfod achos problemau ffrwythlondeb. Rydym yn cynnig y gwasanaethau ymchwilio dilynol:
Bydd canlyniadau'r ymchwiliadau yn helpu i gynnig arweiniad ynghylch triniaethau posibl i ffrwythloni. Gellir cynnig yr opsiynau canlynol o ran triniaethau:
Bydd ein tîm yn trafod yr opsiynau perthnasol o ran triniaethau â chi i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o ofal a thriniaethau yn ymwneud â ffrwythlondeb.
Ceir tri chlinig ffrwythloni y gallwn gyfeirio pobl atynt trwy law y GIG. Ariennir hyn gan Wasanaeth Comisiynu Iechyd Cymru.
Byddwch yn cael eich cynghori i wneud eich gwaith ymchwil eich hun a chadarnhau at ba glinig y dymunwch gael eich cyfeirio. Mae'r Gymdeithas Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) yn llywodraethu holl glinigau ffrwythloni'r DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan HFEA, yn cynnwys cymorth i'ch galluogi i gymharu clinigau ffrwythloni fel y gallwch ddewis clinig ar sail gwybodaeth. Bydd cyplau o'r un rhyw a merched sengl y mae arnynt angen gwasanaeth ffrwythloni mewngroth gan ddefnyddio sberm rhoddwr yn cael eu cyfeirio at Ganolfan Ffrwythloni Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru, yr Amwythig.