Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol i gynghori a chefnogi lleoliadau cymunedol megis meithrinfeydd, ysgolion, a gweithleoedd i ddarparu bwyd a diod iach. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth, cysylltwch â’r Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd.
Rydym yn cynnig gwobr arfer gorau ar gyfer darparwyr gofal plant cynnar fel meithrinfeydd, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant. Mae hyn yn cydnabod ac yn gwobrwyo lleoliadau am ddarparu bwyd a diod iach a maethlon i blant yn eu gofal. I ennill y wobr hon, rydym yn darparu hyfforddiant pwrpasol a rhestr wirio i sicrhau bod y bwyd a diod a ddarperir yn bodloni canllawiau cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae hon yn rhaglen genedlaethol sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf ar draws nifer o ysgolion Gogledd Cymru. Rydym yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i staff addysgu i gyflwyno sesiynau addysgol hwyliog a rhyngweithiol ar fwyd a maetheg.
Darperir brecwast a chinio maethlon i’r plant sy’n mynychu’r rhaglen Bwyd a Hwyl. Mae yna hefyd sesiynau gweithgaredd corfforol a gweithgareddau i gefnogi eu hiechyd a’u lles.
Mae’r fenter hon yn cael ei chynnal ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn i roi cyfle i’n hymwelwyr ysbyty a staff brynu prydau iach am gost is. Mae’r prydau deiet planhigion am bris gostyngol yn annog bwyta’n iach a chynaliadwy. Mae pob pryd yn cynnwys dau ddogn o lysiau a argymhellir. Mae cardiau ryseitiau hefyd ar gael i chi ddysgu sut i goginio prydau hawdd, cost-effeithiol a maethlon gartref.