Mae fy mhlentyn wedi'i gyfeirio - beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd eich plentyn yn cael cynnig apwyntiad o fewn 14 wythnos ar ôl derbyn y cyfeiriad. Bydd aelod o staff yn cysylltu â chi ynghylch trefnu apwyntiad.
Beth ddylwn i ei ddisgwyl yn fy apwyntiad cyntaf?
Bydd eich apwyntiad cyntaf yn apwyntiad asesu. Byddwch yn cael eich gweld gan therapydd Iaith a Lleferydd cymwys a nodir hanes achos ble bydd yr SLT yn gofyn cwestiynau i chi am ddatblygiad eich plentyn i gael gwybodaeth gefndirol. Caiff sgiliau Iaith a Lleferydd eich plentyn eu hasesu gan yr SLT a fydd yn cael gwybodaeth gan y rhiant/gwarcheidwad, yn sgil arsylwadau a wneir yn ystod y sesiwn, trwy chwarae a/neu asesiad ffurfiol. Ar ôl y sesiwn hon, caiff penderfyniad ei wneud ynghylch a oes angen i'ch plentyn gael rhagor o sylw.
Beth os na allaf siarad Saesneg?
Os oes angen cyfieithydd ar gyfer y plentyn a/neu'r rhiant/gofalwr, gellir trefnu hyn cyn yr apwyntiad.
A all fy mhlentyn gael ei ail-gyfeirio?
Os yw'ch plentyn wedi cael therapi Iaith a Lleferydd yn y gorffennol ond mae gennych chi bryderon newydd, mae croeso i chi ail-gyfeirio. Sicrhewch eich bod yn darparu cymaint o fanylion â phosib yn y cyfeiriad ynghylch yr anawsterau y mae eich plentyn yn eu profi.