Rydym yn darparu’r gwasanaethau strôc canlynol ar draws Gogledd Cymru:
Rydym yn cyflwyno ystod o welliannau i'r gwasanaeth strôc yn 2022 er mwyn gwella canlyniadau i'r rhai sydd wedi profi strôc yng ngogledd Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Gwella Strôc.
Os ydych yn newydd i’r clinig, yn aml bydd yn ddefnyddiol i berthynas neu gyfaill a welodd y trawiad ischamig diflanedig (TID) ddod gyda chi i’ch apwyntiad. Gall eu gwybodaeth a’u disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd i chi ein helpu i ddarparu’r diagnosis a’r driniaeth gywir i chi.
Os bydd angen archwiliadau pellach arnoch yn dilyn eich apwyntiad clinig, gwneir hyn yn aml iawn ar yr un diwrnod. Gall hyn olygu bydd angen i chi aros yn yr ysbyty yn dilyn eich amser apwyntiad. Byddwn yn esbonio hyn i chi yn ystod eich apwyntiad. Byddwn yn trefnu unrhyw apwyntiadau dilynol gyda chi cyn i chi adael y clinig a byddwn yn anfon copi o’ch asesiad drwy’r post atoch chi a’ch meddyg teulu.