Mae Gwasanaeth ac Adran Niwroffisioleg Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn Ysbyty Gwynedd, gyda gwasanaeth cludadwy a chlinigau allgymorth mewn Ysbytai Cymuned ac Ysbytai Cyffredinol eraill.
Mae'r Gwasanaeth yn cynnal archwiliadau diagnostig ffisiolegol i helpu wrth roi diagnosis a monitro o ran anhwylderau system nerfol ganolog ac ymylol ac afiechydon cyhyrau yn achos plant ac oedolion. Mae mwyafrif y cyfeiriadau yn ymwneud ag epilepsi tebygol, enceffalitis, enceffalopathi, anhwylderau cysgu, nerf wedi’i gwasgu neu niwropatheg ymylol.
Mae Niwroffisioleg Glinigol yn arbenigedd perthynol i Niwroleg. Mae'n arbenigedd ymchwiliol yn bennaf; gan ddefnyddio cyfrifiadur, modd trydanol, magnetig ac electronig o gofnodi swyddogaeth yr ymennydd, asgwrn cefn, bonion asgwrn cefn, nerfau ymylol a chyhyrau i roi diagnosis o anhwylderau o swyddogaeth y system nerfol. Defnyddir Niwroffisioleg Glinigol i fonitro cynnydd afiechyd, effeithiau therapi a chyfanrwydd y system nerfol yn ystod llawdriniaethau wrth fod yn effro, wrth gysgu a rhai triniaethau llawfeddygol.
Mae'r profion canlynol ar gael:
Cyfeiriadau
Derbynnir cyfeiriadau gan glinigwyr gofal cychwynnol a gofal eilaidd yn dilyn y canllawiau priodol ar gyfer ymchwiliadau Electro-enseffalograffeg (EEG) ac archwiliadau Dargludiad Nerf (NCS)/ Electromygraffeg (EMG).
Amseroedd aros
Mae amseroedd aros ar hyn o bryd yn llai na 3 wythnos ar gyfer profion sgrinio arferol, EEG diffyg cwsg a phrofion sgrinio niwropatheg sylfaenol wedi’u harwain gan ffisioleg. Caiff cyfeiriadau brys a critigol eu cwblhau o fewn 48 awr o dderbyn cyfeiriad. Ar gyfer pob prawf EEG a phrawf Niwroffisioleg Ymylol yn cynnwys electromygrafffeg dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol, mae'r amser aros yn llai nag 8 wythnos.
Canlyniadau
Mae canlyniadau dros dro ar gael o fewn 24 awr ac adrodd clinigol ffurfiol o fewn 5 -7 diwrnod gwaith.