*Rydym yn annog rhieni/gofalwyr i wylio fideos YouTube yn gyntaf er mwyn sicrhau eu bod yn briodol i'ch plentyn/unigolyn ifanc.
Kem Cetinay
Mae'r fideo hwn yn dangos Kem Cetinay yn siarad am orbryder a sut mae'n delio ag ef.
Tair ffordd o oresgyn gorbryder
Mae'r fideo byr hwn yn ymwneud â thair ffordd o oresgyn gorbryder a gallai fod o gymorth.
Teimlo'n drist ac yn anhapus
Mae'r fideo hwn yn ymwneud â theimlo'n drist ac yn anhapus.
Bocs hunangysuro
Sut i wneud bocs hunangysuro a sut i'w ddefnyddio pan fyddwch yn bryderus.
Teimladau hunanddinistriol
Mae'r fideo hwn yn ymwneud â sut i ymdopi â theimladau hunanddinistriol.
Hunan-niwed
Mae'r fideo hwn yn ymwneud â delio â hunan-niwed.
Symud ymlaen ar ôl hunan-niwed
Mae'r fideo hwn yn ymwneud â symud ymlaen ar ôl hunan-niwed.
Cyrsiau rhianta
Mae'r fideo hwn yn trafod cyrsiau rhianta a sut gallant helpu teuluoedd sydd â phlant a allai ddangos rhywfaint o ymddygiad heriol.
Strategaethau ymyriadau ymddygiad
Mae'r fideo hwn yn ymwneud â strategaethau ymyriadau ymddygiad.
Awgrymiadau ar rianta
Fideo yn cynnwys 123 o awgrymiadau euraid ar rianta.
Dicter
Siarad am ddicter: profiadau pobl ifanc.
Amazing things happen
Amazing things happen gan Alexander Amelines. Esboniad i bobl ifanc - beth yw awtistiaeth?
Beth yw awtistiaeth?
Esboniad i rieni neu bobl ifanc yn eu harddegau.
Wythnos ymwybyddiaeth o awtistiaeth
Fideo am wythnos ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
Esboniad o awtistiaeth
Esboniad o beth yw Awtistiaeth.
Allwch chi fy ngweld i?
Fideo ymwybyddiaeth o Awtistiaeth - allwch chi fy ngweld i.
Yn dda i'r ddau ohonom
Stori am fam a'i mab yn ystod eu taith trwy CAMHS yw hon. Mae'n darlunio eu profiadau a'u barn sydd wedi'u troi'n adnodd addysgol ar y we.
Asesu Awtistiaeth
Stori am y llwybr asesu yn esbonio proses asesu ASD.
Ar ôl diagnosis ac adborth
Ffilm fer am sesiwn adborth yn trafod canlyniadau asesiadau ac yn amlygu pwysigrwydd proffil y plentyn/unigolyn ifanc.
Safbwynt rhieni
Stori cyn asesu yn addysgu ac yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr plant sy'n aros am asesiad awtistiaeth. Cafodd ei ddatblygu gan grŵp o rieni a phobl ifanc yn seiliedig ar eu profiadau o'r broses gyfeirio ac mae'n disgrifio strategaethau y gellir eu rhoi ar brawf tra bod teuluoedd yn aros am gyfeiriad at asesiad.
Ap About Me
Cafodd ap About Me, ei greu mewn ymateb i adborth gan bobl ifanc sydd ag awtistiaeth a bydd yn helpu i wella cyfathrebu, cymorth a gwybodaeth i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth. Mae'r ap ffôn symudol yn cynnwys gwybodaeth allweddol am unigolyn sydd ag awtistiaeth gan gynnwys proffil o'i anghenion a'i gryfderau, offeryn olrhain cynnydd o'r broses asesu a gwybodaeth am wasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae'n hwylus iawn i ddiweddaru gwybodaeth ac mae'n galluogi pobl ifanc a'u teuluoedd i rannu gwybodaeth allweddol gyda gwasanaethau ar adeg argyfwng ac mae'n helpu i leihau gorbryder ac i sicrhau bod y cymorth mwyaf addas yn cael ei ganfod.
I am me
Mae animeiddio wedi'i ddefnyddio i ddarparu ffordd ddiogel a phleserus i bobl ifanc ag awtistiaeth rannu eu teimladau, eu meddyliau a'u profiadau.
Esboniad o'r 7 synnwyr
Fideo SPD Esboniad o'r 7 synnwyr i blant a rhieni.
Allwch chi gyrraedd y diwedd?
Deall awtistiaeth, yr unigolyn a beth i'w wneud.
Cymhorthion gweledol
Mae cymhorthion gweledol yn helpu i atgyfnerthu gwybodaeth sy'n cael ei rhoi ar lafar a gall helpu plentyn i ddeall, gwneud dewisiadau a gwybod beth i'w ddisgwyl mewn sefyllfa benodol.
Newid annisgwyl: profiad
Dyna mae rhai pobl awtistig yn ei wynebu bob dydd.
Faint o gwestiynau allwch chi eu hateb?
Rhowch eich ymennydd ar brawf a gallwch deimlo sut beth yw cael gormod o wybodaeth.
Esbonio ADHD i rieni
Achosion, symptomau, triniaethau a mwy.
Beth yw ADHD?
Fideo sy'n esbonio sut beth yw bod ag ADHD.
Awgrymiadau ardderchog - byrbwylltra
Mae'r fideo hwn yn disgrifio'r hyn y gall rhieni a gofalwyr ei wneud i helpu eu plentyn i ddysgu sut i reoli'r ysgogiad i siarad a/neu i weithredu'n amhriodol.
Awgrymiadau ardderchog - canolbwyntio
Mae'r fideo hwn yn disgrifio'r hyn y gall rhieni a gofalwyr ei wneud i helpu eu plentyn i wella ei sgiliau canolbwyntio.
Awgrymiadau ardderchog - gorfywiogrwydd
Mae'r fideo hwn yn disgrifio'r hyn y gall rhieni a gofalwyr ei wneud i ymdopi â'u plentyn gorfywiog.
Byw gydag ADHD
Stori am nain a'i hwyres yw hon, sydd wedi cael diagnosis anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Mae'n amlygu eu profiadau a'u barn o ran Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).
Stori Zoe am ADHD
Stori gan riant a'i phlentyn sydd ag ADHD a'r holl heriau a miri sy'n dod o fod yn rhiant i'r plentyn.
Profiadau anffafriol yn ystod plentyndod
Fideo i rieni yw hwn yn ymwneud â phrofiadau anffafriol yn ystod plentyndod.
Allwch chi oddef cael eich gwrthod?
Nid yw cyflogwyr yn gweld fy ngalluoedd. Maent yn gweld fy awtistiaeth. Maent yn gweld problem.
Awgrymiadau ar ddefnyddio'r toiled
Ychydig o awgrymiadau defnyddiol wedi'u rhannu gan rieni a gweithwyr proffesiynol i ddelio â phroblemau defnyddio'r toiled o ran plant a phobl ifanc.
Ei wneud ar y cyd
Mae'r rhieni/gofalwyr mewn grŵp yng Nghasnewydd wedi datblygu 'canllaw goroesi gydag awgrymiadau' i'w helpu nhw a theuluoedd eraill.
Awgrymiadau a chyngor ar gysgu
Awgrymiadau ar gysgu gan riant
Ychydig o awgrymiadau a syniadau defnyddiol ar ddelio ag anawsterau cysgu. Safbwynt rhiant yw hwn.
Cwsg - safbwynt proffesiynol
Ychydig o awgrymiadau a syniadau defnyddiol gan weithwyr proffesiynol ar ddelio â chwsg.