Gall cefnogi ac atal ymddygiad heriol fod yn anodd. Mae pob plentyn yn wahanol felly nid oes datrysiad sy'n addas i bawb. Fodd bynnag, CHI yw'r arbenigwr ar eich plentyn ac mae'n debygol iawn y byddwch yn barod yn ymwybodol o'r pethau a all orlethu eich plentyn/unigolyn ifanc.
Mae pob ymddygiad yn ffordd o gyfathrebu. Mae ein hymddygiad yn cael ei ddefnyddio i wneud un o’r pedwar prif swyddogaethau hyn:
Y rhieni/gofalwyr yw'r arbenigwyr ar ymddygiad eu plentyn ac felly nhw yw'r bobl orau i ddynodi pa swyddogaeth sy'n debygol o fod y rheswm dros ymddygiad y plentyn. Unwaith bydd hyn wedi'i ddynodi, gellir rhoi ymyriadau ar waith i gefnogi'r ymddygiad. Mae hyn yn golygu bod yn Rhagweithiol cyn i'r ymddygiad waethygu a mynd yn argyfwng.
Byddai'n fanteisiol petaech yn dod yn ymwybodol o arwyddion a'r pethau sy'n sbarduno eich plentyn hefyd er mwyn cefnogi ymddygiad sy'n herio.
Dyma'r arwyddion rhybudd cynnar - arwyddion corfforol neu ymddygiadau sy'n newid, sy'n rhoi arwydd y gall ymddygiad heriol fod ar ei ffordd.
Er enghraifft: efallai bydd wyneb eich plentyn yn troi’n goch neu efallai bydd yn dechrau cerdded yn ôl ac ymlaen. Gall newid tôn ei lais neu fynd yn fwy aflonydd. Mae ailadrodd pethau (geiriau neu ymddygiadau) a gwneud ystumiau yn gyffredin hefyd.
Efallai y byddai'n werth nodi pa arwyddion y mae eich plentyn yn ei ddangos fel y gallwch fod yn ymwybodol y bydd angen i chi ddefnyddio technegau tawelu (gweler yr adran nesaf) i leihau ei bryder cyn iddo 'ffrwydro'.
Y rhain sy’n 'achosi'r’ ymddygiad heriol. Gall sut ydym yn teimlo a'r pethau sy'n digwydd i ni, ac o'n cwmpas, newid sut ydym yn ymddwyn. Rydym yn gwahanu'r digwyddiadau hyn i sbardunau araf a sbardunau cyflym.
Sbardunau araf - dyma'r pethau sy'n mynd ymlaen yn y cefndir ac yn aml maent yn dechrau ymhell cyn yr ymddygiad heriol. Mae sbardunau araf yn gwneud yr ymddygiad heriol yn fwy tebygol o ddigwydd gan eu bod yn achosi pobl i beidio â theimlo ar eu gorau. Gall bod yn ymwybodol o’r sbardunau araf ein helpu i ddeall bod ein hunigolyn ifanc yn ei gweld yn anoddach i wneud pethau heddiw, ac efallai bydd yn fwy tebygol o gyfathrebu hynny i ni drwy ymddwyn mewn ffordd heriol.
Mae sbardunau araf yn cynnwys:
Sbardunau cyflym - fel y gallwch ddychmygu, dyma'r sbardunau sy'n cael effaith ar unwaith a’r rhai sy'n digwydd yn agosach at yr ymddygiad.
Mae sbardunau cyflym yn cynnwys:
Mae sbardunau araf a chyflym yn uno â’i gilydd i achosi ymddygiad heriol.
Er enghraifft os yw eich plentyn yn teimlo'n sâl, heb gysgu'n dda ac yn llwglyd, mae'n fwy tebygol o ymateb i'r sbardun cyflym fel cael gwybod nad yw ei swper yn barod o'i chymharu â phetai yn hapus ac wedi cysgu'n dda.
Mae'n bwysig meddwl pryd yw'r adeg orau i helpu eich plentyn i fynd yn ôl i deimlo’n ddigynnwrf.
Yn rhy aml pan fydd y foment wedi mynd heibio a phan fydd pethau'n dechrau ymddangos fel petaent yn mynd yn ôl i'r arfer gallwn fod yn euog (yn anfwriadol) o wneud y sefyllfa'n waeth eto drwy geisio siarad am yr hyn a ddigwyddodd neu ofyn cwestiynau fel:
Er ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r ymddygiad, mae'n well gwneud hyn pan na fydd eich plentyn wedi cynhyrfu.
Amcangyfrifir ei bod yn cymryd 90 munud i gorff a synhwyrau eich plentyn fynd yn ôl i'r "normal" ar ôl digwyddiad. Efallai bydd rhai plant/pobl ifanc eisiau mwy o amser cyn iddynt deimlo'n hollol ddigynnwrf.
Gall ceisio trafod/gwneud synnwyr o'r sefyllfa gyda'ch plentyn cyn iddo fynd yn hollol ddigynnwrf yn aml arwain at waethygu ei ymddygiad eto.
Meddyliwch am thermomedr. Pan fydd eich plentyn ar frig y thermomedr, gall gymryd 90 munud i fynd yn ôl i'r gwaelod ac yn ystod y cyfnod hwn gall pethau sy'n ymddangos yn fach fynd a'ch plentyn yn ôl i'r brig eto.
Pethau y gallwch roi cynnig arnynt:
Gweler isod restr o strategaethau syml y gallwch roi cynnig arnynt gartref. Mae pethau gwahanol yn gweithio'n well i bobl wahanol. Ni fydd pob strategaeth yn gweithio i'ch teulu. Gall gymryd amser i newid i ddefnyddio strategaethau newydd felly rhowch gynnig arnynt am ychydig cyn symud ymlaen at ddull arall.
Dogfennau y gellir eu llawr lwytho:
Dolenni defnyddiol: