Neidio i'r prif gynnwy

Mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Cyfeiriad: Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD 

Rhifau cyswllt

Uned Asesu Cleifion Allanol Mamolaeth (MOAU)
03000 847694 

Y ward esgor
03000 847976

Clinig Cyn-geni

Mae'r clinig hwn ar gyfer merched beichiog sydd angen barn meddyg ymgynghorol, neu sydd angen eu monitro neu ofal arbenigol. Cynhelir clinigau bob dydd a bydd y diwrnod y byddwch chi'n mynychu yn dibynnu naill ai ar eich meddyg ymgynghorol penodol neu'r rheswm dros eich presenoldeb.

Sut i gyrraedd:
Parciwch yn y prif faes parcio Mae'r fynedfa i'r Clinig Cyn-Geni trwy'r drysau troi yn y brif fynedfa. Ewch heibio'r caffi at y prif goridor a throi i'r dde. Mae'r clinig cyn-geni wedi'i leoli ar ddiwedd y coridor ar eich ochr chwith.

Ward Lawson Tait (Ward cyn-geni ac ar ôl geni)

Unwaith rydych wedi rhoi genedigaeth, os ydych yn aros yn yr ysbyty, byddwch yn mynd i Ward Lawson Tait. Dyma ble byddwch yn aros os ydych yn cael eich derbyn cyn i chi gael eich babi.

Ychydig o le sydd ar gael i gadw eitemau ar y ward, felly paciwch ar gyfer un noson yn unig. Gall partneriaid ddod â phethau ychwanegol i chi os ydych yn aros yn hirach.

Mae system diogelwch yn ei le ac yn dilyn genedigaeth eich babi bydd tag electronig yn cael ei roi ar ffêr eich babi. Mae'n bwysig nad ydych yn gadael y ward gyda'r tag arno gan y bydd yn sbarduno system larwm.

Ymweld

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Sut i gyrraedd:
Parciwch yn y prif faes parcio ac ewch i mewn i'r ysbyty drwy'r brif fynedfa. Dilynwch yr arwyddion i'r Uned Mamolaeth sydd ar y llawr cyntaf, Adran U6.