Neidio i'r prif gynnwy

Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd

Cyfeiriad: Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ 

Rhifau cyswllt

Uned Asesu Cleifion Allanol Mamolaeth (MOAU)
03000 844498

Y ward esgor
03000 844021

Clinig Cyn-geni

Mae'r clinig hwn ar gyfer merched beichiog sydd angen barn meddyg ymgynghorol, neu sydd angen monitro neu ofal arbenigol, drwy apwyntiad yn unig. Maent yn cael eu cynnal ar brynhawn dydd Mercher yn Adeilad Ivor Lewis a bydd eich Bydwraig cymuned yn rhoi gwybod i chi ble mae'r adeilad hwn.

Ward Celyn (Ward cyn-geni ac ar ôl geni)

Unwaith rydych wedi rhoi genedigaeth, os ydych yn aros yn yr ysbyty, byddwch yn mynd i Ward Celyn. Dyma ble byddwch yn aros os ydych yn cael eich derbyn cyn i chi gael eich babi.

Ychydig o le sydd ar gael i gadw eitemau ar y ward, felly paciwch ar gyfer un noson yn unig. Gall partneriaid ddod â phethau ychwanegol i chi os ydych yn aros yn hirach.

Mae system diogelwch yn ei le ac ar ôl genedigaeth eich babi bydd tag electronig yn cael ei roi ar ffêr eich babi. Mae'n bwysig nad ydych yn gadael y ward gyda'r tag arno gan y bydd yn sbarduno system larwm.

Ymweld

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Sut i gyrraedd:
Parciwch  yn y meysydd parcio ymwelwyr dynodedig a dilynwch yr arwyddion i'r Uned Mamolaeth. Os ydych chi'n teimlo na allwch gerdded mor bell fe allwch chi gael eich gollwng y tu allan i'r brif fynedfa lle mae cadeiriau olwyn ar gael a dilynwch arwyddion i'r uned famolaeth sydd ar y llawr cyntaf. Cymerwch y lifft neu'r grisiau.