Neidio i'r prif gynnwy

Badger Notes -Cofnod o'ch Gofal yn ystod eich Beichiogrwydd

Mae Badger Notes yn borth ar-lein ac ap sy’n caniatáu i chi gael mynediad at eich cofnodion mamolaeth ar y rhyngrwyd drwy eich cyfrifiadur personol, dyfais tabled neu ffôn symudol.

Bydd y wybodaeth a welwch chi yn cael ei chynhyrchu mewn amser real o'ch cofnod ar system famolaeth yr ysbyty, gan ddefnyddio manylion a gofnodwyd gan eich bydwraig neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal.

Mae Badger Notes yn cysylltu'n uniongyrchol â Nodiadau Mamolaeth BadgerNet, system ddigidol newydd sy'n dod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddisodli’r hen system o gofnodi ar bapur.

Bydd y system newydd hon yn mynd yn fyw ar 10 Mawrth a bydd ar gael i bob apwyntiad newydd, ac i bob menyw yn ystod ac ar ôl yr enedigaeth. Cofiwch ddal ati i ddod â'ch nodiadau papur i bob apwyntiad gan y bydd rhywfaint o ddogfennaeth yn aros ar bapur. Diolch.