Mae'r adran Gwasanaethau Dadebru'n darparu cyngor arbenigol, hyfforddiant a chymorth clinigol i fodloni anghenion dadebru poblogaeth Gogledd Cymru.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o dair swyddfa yn yr ysbytai llym (Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd) ac yn gwasanaethu ysbytai cymuned a llym o fewn BIPBC. Rydym hefyd yn cefnogi llawer o feddygfeydd Meddyg Teulu, practisau deintyddol, gwasanaethau Carchar EM a sefydliadau eraill gyda'u hanghenion sy'n berthnasol i ddadebru.
Adnoddau
Os hoffech lawrlwytho a chwblhau pecyn dysgu ar-lein a grëwyd ar ran Cyngor Dadebru (DU) gallwch lawrlwytho'r App "LifeSaver" ar ddyfais sy’n cydweddu drwy glicio ar y llun isod. Gall yr App gael ei ddefnyddio ar iPhone, iPad ac ar ffonau a llechi Android. Gallwch hefyd gwblhau'r hyfforddiant ar-lein drwy ddefnyddio'ch cyfrifiadur eich hun.
Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho'r App ar eich dyfais.