Mae diet amrywiol, cytbwys heb ei brosesu yn rhoi’r maetholion sydd eu hangen arnom i gadw ein holl gorff yn iach. Dangosodd ymchwil fod diet da nid yn unig yn helpu ein hiechyd corfforol ond hefyd ein hiechyd meddyliol. Mae diet da yn rhoi egni i ni, yn ein helpu i ganolbwyntio, cysgu'n well ac yn atal a rheoli llawer o anhwylderau meddygol a chorfforol yn cynnwys poen.
Gall gwybodaeth am fwyd a diet fod yn ddryslyd. Fodd bynnag os edrychwch yn agos ar yr holl ddietau hyn, mae ganddynt lawer o bethau yn gyffredin.
Sut ddylem ni fwyta?
Brasterau da
Cnau, hadau, afocados, olew cnau coco, olew olewydd, pysgod olewog ac ychydig bach o fenyn
Mae pysgod olewog yn ffynhonnell dda o Omega 3
Mae Omega 3 yn deulu o frasterau sy'n bwysig ar gyfer iechyd https://www.bda.uk.com/
Mae cymdeithas dietegwyr y DU yn argymell 2 ddogn o bysgod yr wythnos, un ohonynt yn bysgodyn olewog.