Neidio i'r prif gynnwy

Bwyd a Diet

Mae diet amrywiol, cytbwys heb ei brosesu yn rhoi’r maetholion sydd eu hangen arnom i gadw ein holl gorff yn iach. Dangosodd ymchwil fod diet da nid yn unig yn helpu ein hiechyd corfforol ond hefyd ein hiechyd meddyliol. Mae diet da yn rhoi egni i ni, yn ein helpu i ganolbwyntio, cysgu'n well ac yn atal a rheoli llawer o anhwylderau meddygol a chorfforol yn cynnwys poen.

Gall gwybodaeth am fwyd a diet fod yn ddryslyd. Fodd bynnag os edrychwch yn agos ar yr holl ddietau hyn, mae ganddynt lawer o bethau yn gyffredin.

Sut ddylem ni fwyta?

  • Bwyd heb ei brosesu
  • Prydau wedi eu gwneud o'r dechrau yn defnyddio cynnyrch ffres
  • Bwytewch liwiau’r enfys - Llysiau a ffrwythau mewn ystod o liwiau
  • Grawn cyflawn, ffa, cnau a hadau
  • Brasterau da
  • Cadwch wedi hydradu yn dda - yfwch ddigon o ddŵr
  • Osgowch fwydydd llawn siwgr neu wedi eu prosesu
  • Ceisiwch fwyta wrth y bwrdd gyda phobl eraill
  • Os yn bwyta cynnyrch anifeiliaid ewch am ansawdd da yn hytrach na maint
  • Osgowch/lleihewch alcohol
  • Osgowch ysmygu

Brasterau da

Cnau, hadau, afocados, olew cnau coco, olew olewydd, pysgod olewog ac ychydig bach o fenyn

Mae pysgod olewog yn ffynhonnell dda o Omega 3

Mae Omega 3 yn deulu o frasterau sy'n bwysig ar gyfer iechyd https://www.bda.uk.com/

Mae cymdeithas dietegwyr y DU yn argymell 2 ddogn o bysgod yr wythnos, un ohonynt yn bysgodyn olewog.